Rydym yn defnyddio cwcis o wasanaethau trydydd parti i'n helpu ni i wella ein gwefan.

Mae ffyrdd eraill y gall cyfrannu rhodd fod o fudd i Sinfonia Cymru

Cyfrannu cymynrodd
Cyfrannwch gymynrodd er mwyn rhoi’r dechrau gorau posibl i yrfaoedd cenedlaethau o gerddorion ifanc y dyfodol trwy Sinfonia Cymru. Ar ôl i chi ofalu am eich teulu a chymynroddion eraill y dymunwch eu gwneud, gall eich cyfreithiwr roi cyngor i chi ar y ffordd orau i symud ymlaen. Rydyn ni’n ddiolchgar iawn am bob cymynrodd a dderbyniwn.

Cyfrannu Rhodd er Anrhydedd
Byddwn yn falch iawn i dderbyn rhodd i Sinfonia Cymru er anrhydedd i aelod o’r teulu, ffrind neu gydweithiwr. Gallai hyn fod yn gyfraniad rhodd i’r gerddorfa, noddi ‘cadair’ chwaraewr neu gefnogi un o’n cyngherddau.

Rhoi drwy Gyflogres neu Roi Cyfatebol
Os yw’ch cyflogwr neu’ch darparwr pensiwn yn rhedeg cynllun rhoi cyfatebol neu roi drwy gyflogres, gallwch gyfrannu rhoddion di-dreth i Sinfonia Cymru fel didyniadau cyn treth o’ch cyflog neu bensiwn. Bydd eich tîm adnoddau dynol neu reolwr pensiwn yn gallu rhoi gwybod i chi p’un ai yw’ch cyflogwr/darparwr yn rhedeg rhaglen gymwys, a darparu’r ffurflenni angenrheidiol.

Rhagor o wybodaeth
I ddarganfod rhagor am unrhyw agwedd ar gefnogaeth i Sinfonia Cymru, cysylltwch â Caroline Tress, Prif Weithredwr.

"Roedd mor hyfryd gweithio gyda chi i gyd ac rydw i mor hapus y llwyddon ni i gael popeth i weithio, yn enwedig ar ôl rhwystr yr eira."
–Amy Wheel, Cynhyrchydd BBC R3

Cefnogwch Sinfonia Cymru

Cyfrannwch rodd nawr i roi’r dechrau gorau posibl i gerddorion ifanc yn eu gyrfaoedd proffesiynol.

Darllen rhagor