Regenerate: Seasons for Change
“Roedd gwylio’r perfformiad hwn gan Sinfonia Cymru yn brofiad gwirioneddol ysbrydoledig. Cafodd effaith ddofn iawn arnaf i.” – Errollyn Wallen CBE
Dewch i mewn i fyd lle mae cerddoriaeth yn gatalydd ar gyfer gobaith, dychymyg a dyfodol ein planed.
Yn cynnwys ailddychmygiad o waith Vivaldi, The Four Seasons, ac ailddychmygiad o The Lark Ascending gan Vaughan Williams, ochr yn ochr â cherddoriaeth werin draddodiadol, bydd yr ymgyrchwyr hinsawdd a’r cerddorion Simmy Singh (ffidil), Delia Stevens (offerynnau taro) a Will Pound (harmonica) – a enwebwyd dair gwaith ar gyfer y wobr BBC Folk Musician of the Year – yn ymuno â cherddorion dan 30 oed anhygoel Sinfonia Cymru i greu llwyfan cyngerdd unigryw. Rydym yn estyn gwahoddiad i chi rannu yn y profiad ac ailddychmygu dyfodol ein planed ar gyfer y genhedlaeth nesaf.
Cyn perfformiad Sinfonia Cymru yng Nghaerdydd, bydd côr Oasis Cardiff’s One World Choir yn canu. Byddant yn canu caneuon am fyd natur, y byd, a’n lle ni yn y byd sydd ohonni. Cewch eich codi gan bwer a symudiad y gerddoriaeth, bydd yn eich gadael yn llawn gobaith. Bydd y cerddor a’r ymgyrchydd hinsawdd Simmy Singh yn ymuno. Cyntedd Carne, CBCDC – 18:30-19:15.
Mae Regenerate: Seasons for Change yn rhaglen sy’n torri tir newydd. Comisiynwyd rhai darnau’n wreiddiol gan Sky Arts ar gyfer y gyfres Musical Masterpieces a gyflwynwyd gan Myleene Klass ac Errollyn Wallen CBE. Cefnogir gan The Open Fund for Organisations, Sefydliad PRS.