Rydym yn defnyddio cwcis o wasanaethau trydydd parti i'n helpu ni i wella ein gwefan.

Pwy ydyn ni

Cerddorfa ar gyfer cerddorion proffesiynol ifanc yw Sinfonia Cymru. Rydyn ni wedi’n lleoli yng Nghaerdydd, Cymru.
Cyfeiriad ein gwefan yw sinfonia.cymru

Ein hegwyddorion preifatrwydd

Rydyn ni’n cymryd ein cyfrifoldebau o ddifrif ynghylch diogelu data a bydd unrhyw wybodaeth a gasglwn amdanoch chi yn cael ei defnyddio yn unol â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data a’r Rheoliad ar Gyfathrebiadau Electronig Personol. Byddwn ond yn cofnodi data sy’n berthnasol i’n cyfathrebiadau â chi, ac ond yn defnyddio data personol i ddarparu’r gwasanaethau neu’r wybodaeth rydych wedi gofyn amdanynt. Bydd unrhyw ddata sydd gennym yn cael eu cadw’n ddiogel gennym ni, neu ar ein rhan gan ein partneriaid busnes.

Sut rydyn ni’n defnyddio eich data – post, e-bost, ffôn

 

Os ydych chi’n aelod o gynulleidfa neu’n ddarpar aelod o gynulleidfa

Byddwn yn prosesu eich data at ddibenion ein buddiannau busnes dilys (gweler isod) a all gynnwys anfon gwybodaeth atoch drwy’r post neu e-bost sy’n ymwneud â’n perfformiadau a’n digwyddiadau. Ein nod bob amser yw sicrhau bod y wybodaeth a anfonwn atoch yn wybodaeth y gallwch ddisgwyl yn rhesymol i’w derbyn gennym. Nid ydyn ni’n gwerthu ein rhestrau ac nid ydyn ni’n ceisio marchnata cynhyrchion i chi sydd heb unrhyw gysylltiad â gwaith Sinfonia Cymru. Os ydych chi wedi bod i weld ein perfformiadau o’r blaen, neu wedi gofyn am dderbyn gwybodaeth gennym, rydyn ni’n debygol o anfon gwybodaeth atoch chi am berfformiadau yn y dyfodol, cynigion ar docynnau, a digwyddiadau arbennig. Mae’n bosibl y byddwn hefyd yn postio gwybodaeth atoch am sut y gallwch gefnogi Sinfonia Cymru, er enghraifft trwy un o’n cynlluniau codi arian neu gynlluniau aelodaeth – ond ni fyddwn yn anfon y math hwn o wybodaeth atoch trwy e-bost oni bai ein bod wedi gofyn am eich cydsyniad penodol i wneud hynny.

Weithiau, byddwn yn defnyddio data cynulleidfaoedd at ddibenion dadansoddol, ond bydd hyn yn ddienw ac ni fydd y dadansoddiad yn datgelu unrhyw wybodaeth bersonol. Er enghraifft, mae’n bosibl yr hoffem ddarganfod o ba godau post y daw ein cynulleidfa ar gyfer perfformiad neu gyfres o berfformiadau.

Mae gennych hawl i gael eich eithrio o’r prosesu hwn ar unrhyw adeg a’n nod yw egluro sut i eithrio’ch hun o bob cyfathrebiad.

Os ydych chi’n gerddor

Os ydych chi’n gerddor presennol neu flaenorol neu’n ddarpar gerddor gyda Sinfonia Cymru, rydyn ni’n defnyddio’ch gwybodaeth i greu, cynnal ac anrhydeddu’r berthynas gontractiol sydd rhyngom. Gallai hyn gynnwys cysylltu â chi i gynnig gwaith i chi, ymrwymo i gontract ffurfiol gyda chi ar gyfer gwaith, a gwneud y trefniadau angenrheidiol ar gyfer y gwaith hwnnw. Mae’n bosibl y bydd hyn yn ei gwneud yn ofynnol i ni rannu eich data ag un neu fwy o’n partneriaid – er enghraifft, er mwyn i chi gael eich talu a chofnodi’r taliad hwnnw. Bydd ein partneriaid yn trin eich gwybodaeth â’r un uniondeb ag y gwnawn ninnau.

Ar adegau, mae’n bosibl y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth gyswllt busnes â sefydliadau eraill tebyg i Sinfonia Cymru. Er enghraifft, os yw cerddorfa arall eisiau cynnig gwaith i chi ond nid oes ganddyn nhw eich manylion cyswllt. Byddwn ond yn gwneud hyn â phobl sy’n gydweithwyr uchel eu parch y gellir ymddiried ynddynt yn y diwydiant. Os nad ydych chi’n dymuno i ni rannu eich gwybodaeth at y dibenion hyn, rhowch wybod i ni trwy anfon neges e-bost at joseph@sinfonia.cymru

Buddiannau dilys

Er mwyn i ni ddefnyddio ‘Buddiannau dilys’ yn sail ar gyfer defnyddio’ch data, mae’n rhaid i ni asesu a yw’r fath ddefnydd o ddata gennym – i roi gwybod i bobl sydd â diddordeb am ein perfformiadau a’n digwyddiadau – yn cael ei orbwyso gan unrhyw effaith negyddol y gallai hyn ei chael arnoch chi ac eraill y cysylltwn ni â nhw.

Yn ein barn ni, ni fydd dweud wrthych am ein gweithgareddau yn achosi unrhyw effaith negyddol sylweddol o ystyried bod disgwyliad rhesymol ar eich rhan chi bod gennych ddiddordeb yn ein gwaith.

Sut rydyn ni’n defnyddio’ch data – y wefan hon

Google Analytics

Rydyn ni’n defnyddio meddalwedd Google Analytics i gasglu gwybodaeth am sut rydych chi’n defnyddio sinfonia.cymru. Mae hyn yn cynnwys cyfeiriadau IP. Caiff y data eu dienwi cyn eu defnyddio ar gyfer prosesu dadansoddol.

Mae Google Analytics yn prosesu gwybodaeth ddienw am:

  • y tudalennau rydych chi’n ymweld â nhw ar sinfonia.cymru
  • faint o amser rydych chi’n ei dreulio ar bob tudalen sinfonia.cymru
  • sut y cyrhaeddoch chi’r safle
  • yr hyn rydych chi’n clicio arno wrth i chi ymweld â’r safle

Nid ydyn ni’n storio eich gwybodaeth bersonol trwy Google Analytics (er enghraifft, eich enw neu gyfeiriad).
Ni fyddwn yn eich adnabod trwy wybodaeth ddadansoddol, ac ni fyddwn yn cyfuno gwybodaeth ddadansoddol â setiau data eraill mewn ffordd a fyddai’n eich adnabod.

Cyfryngau

Os ydych chi’n lanlwytho delweddau i’r wefan, dylech chi osgoi lanlwytho delweddau sy’n cynnwys data lleoliad wedi’i fewnosod (EXIF GPS). Gall ymwelwyr i’r wefan lawrlwytho a thynnu unrhyw ddata lleoliad o ddelweddau ar y wefan.

Cwcis

Pan rydych chi’n dileu ein rhybudd cwcis, rydyn ni’n cadw’r wybodaeth honno mewn Cwci fel na ddangosir y rhybudd i chi eto ar yr un cyfrifiadur.

Rydyn ni’n cynnig ein cynnwys yn ddwyieithog ac yn defnyddio cwci i gofio’ch dewis iaith.

Os oes gennych chi gyfrif ac rydych chi’n mewngofnodi i’r wefan hon, rydyn ni’n gosod cwci dros dro i benderfynu p’un ai yw’ch porwr yn derbyn cwcis. Nid yw’r cwci hwn yn cynnwys unrhyw ddata personol ac mae’n cael ei ddileu pan rydych chi’n cau’ch porwr. Pan rydych chi’n mewngofnodi, byddwn hefyd yn gosod nifer o gwcis i gadw eich gwybodaeth mewngofnodi a’ch dewisiadau o ran ymddangosiad y sgrin. Mae cwcis mewngofnodi yn aros am ddeuddydd, ac mae cwcis opsiynau sgrin yn aros am flwyddyn. Os byddwch chi’n dewis “Cofiwch Fi”, byddwch chi’n aros wedi’ch mewngofnodi am bythefnos. Os byddwch chi’n allgofnodi o’ch cyfrif, bydd y cwcis mewngofnodi yn cael eu dileu.

Os byddwch chi’n golygu neu’n cyhoeddi erthygl, bydd cwci ychwanegol yn cael ei gadw yn eich porwr. Nid yw’r cwci hwn yn cynnwys unrhyw ddata personol, a’r cyfan y mae’n ei nodi yw cod adnabod yr erthygl rydych chi newydd ei golygu. Caiff ei ddileu ar ôl diwrnod.

Cynnwys wedi’i fewnosod o wefannau eraill

Gall erthyglau ar y wefan hon fod â chynnwys wedi’i fewnosod (e.e. fideos, delweddau, erthyglau, ac ati). Mae cynnwys wedi’i fewnosod o wefannau eraill yn ymddwyn yn yr union un ffordd â phe bai’r ymwelydd wedi ymweld â’r wefan arall. Mae’n bosibl y bydd y gwefannau hyn yn casglu data amdanoch chi, yn defnyddio cwcis, yn defnyddio olrhain trydydd parti ychwanegol, ac yn monitro eich rhyngweithio â’r cynnwys sydd wedi’i fewnosod, gan gynnwys olrhain eich rhyngweithio â’r cynnwys wedi’i fewnosod os oes gennych gyfrif ac rydych chi wedi mewngofnodi i’r wefan honno.

Pa mor hir rydyn ni’n cadw eich data

Os byddwch chi’n gadael sylwadau, cedwir y sylwadau a’r metadata cysylltiedig am gyfnod amhenodol. Mae hyn er mwyn i ni allu adnabod a chymeradwyo unrhyw sylwadau dilynol yn awtomatig yn lle eu dal mewn ciw cymedroli. Yn achos defnyddwyr sy’n cofrestru ar ein gwefan (os oes rhai), rydyn ni hefyd yn storio’r wybodaeth bersonol y maen nhw’n ei darparu yn eu proffil defnyddiwr. Gall pob defnyddiwr weld, golygu, neu ddileu eu gwybodaeth bersonol ar unrhyw adeg (ond ni ellir newid eu henw defnyddiwr). Hefyd, gall gweinyddwyr y wefan weld a golygu’r wybodaeth honno.

Os oes gennych chi gyfrif ar y wefan hon, neu os ydych chi wedi gadael sylwadau, gallwch chi ofyn am dderbyn ffeil wedi’i hallforio o’r data personol sydd gennym amdanoch chi, gan gynnwys unrhyw ddata rydych chi wedi’u rhoi i ni. Hefyd, gallwch ofyn i ni ddileu unrhyw ddata personol sydd gennym amdanoch chi. Nid yw hyn yn cynnwys unrhyw ddata y mae’n ofynnol i ni eu cadw at ddibenion gweinyddol, cyfreithiol neu ddiogelwch.

Lle rydyn ni’n anfon eich data

Mae’n bosibl y bydd sylwadau ymwelwyr yn cael eu gwirio trwy wasanaeth canfod sbam awtomataidd.

Eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data

Mae’r rheoliad yn nodi wyth hawl sydd gan unigolion:

  1. Yr hawl i gael gwybodaeth
    Mae’n ofynnol i ni ddarparu gwybodaeth glir am brosesu data, ac rydyn ni’n gwneud hynny trwy’r datganiad preifatrwydd hwn.
  2. Yr hawl i fynediad
    Gallwch chi gael mynediad i’r data personol sydd gennym amdanoch chi a rhaid i ni gydymffurfio â chais o’r fath o fewn 30 diwrnod.
  3. Yr hawl i gywiriad
    Os yw’r data sydd gennym amdanoch chi’n anghywir ac rydych chi’n rhoi gwybod i ni, byddwn yn falch i gywiro unrhyw wallau.
  4. Yr hawl i ‘fynd yn angof’
    Os ydych chi o’r farn nad oes unrhyw reswm cymhellol i ni barhau i gadw eich data, gallwch ofyn iddynt gael eu dileu neu eu gwaredu. Cyn belled nad oes unrhyw ofyniad cyfreithiol, contractiol neu reoliadol i ni gadw’r data, byddwn ni’n anrhydeddu’ch cais.
  5. Yr hawl i gyfyngu ar brosesu
    Mae hyn yn debyg i’r hawl i ‘fynd yn angof’ uchod, ond mae’r data’n cael eu cyfyngu yn hytrach na’u dileu.
  6. Yr hawl i gludadwyedd data
    Mae hyn yn caniatáu i chi gael mynediad i’ch data a’u hailddefnyddio at eich dibenion eich hun ar draws amgylchiadau gwahanol. Mae’n annhebygol y bydd hyn yn berthnasol i’r math o ddata a gedwir gennym.
  7. Yr hawl i wrthwynebu
    Gallwch wrthwynebu unrhyw brosesu a ddefnyddir ar gyfer eich data. Gallwch arfer yr hawl hon fel y dangosir isod.
  8. Hawliau mewn perthynas â gwneud penderfyniadau awtomataidd a phroffilio
    Mae hyn yn darparu mesurau diogelwch i unigolion rhag y risg o benderfyniad yn cael ei wneud heb ymyrraeth ddynol, a allai fod yn niweidiol. Mae hyn yn annhebygol iawn o fod yn berthnasol yn ein hachos ni.

Sut i gysylltu â ni

Os hoffech chi arfer unrhyw un o’ch hawliau uchod, neu os oes gennych chi ymholiad am eich data, cysylltwch â ni fel a ganlyn:

Drwy’r post:    The Data Manager
Sinfonia Cymru
Enterprise House
127-129 Bute Street
Cardiff Bay
CF10 5LE
Drwy e-bost:     contact@sinfonia.cymru
Ar y ffôn:    029 2075 4556
"Roedd mor hyfryd gweithio gyda chi i gyd ac rydw i mor hapus y llwyddon ni i gael popeth i weithio, yn enwedig ar ôl rhwystr yr eira."
–Amy Wheel, Cynhyrchydd BBC R3

Cefnogwch Sinfonia Cymru

Cyfrannwch rodd nawr i roi’r dechrau gorau posibl i gerddorion ifanc yn eu gyrfaoedd proffesiynol.

Darllen rhagor