Cefnogi
Allwch chi helpu i lansio gyrfa cerddor ifanc? Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain.
Mae ein cenhadaeth yn syml: rhoi’r dechrau gorau posibl i gerddorion ifanc rhagorol yn eu gyrfaoedd proffesiynol. Mae’r cyfleoedd i gerddorion ifanc yn brin ac yn gystadleuol dros ben. Ac yn yr argyfwng presennol, mae hynny wedi dod yn fwy fyth o broblem.
Mae Sinfonia Cymru yn bodloni’r her hon yn uniongyrchol: yn ystod ein 25 mlynedd gyntaf, rydyn ni wedi cefnogi a datblygu cannoedd o gerddorion angerddol, talentog a bywiog – bob un ohonynt o dan 30 oed – ac wedi rhoi’r sylw y maent yn ei haeddu iddynt. Ein chwaraewyr yw perfformwyr mwyaf rhagorol eu cenhedlaeth, sêr yfory o safon fyd-eang.
Rydyn ni’n rhoi cyfleoedd iddyn nhw ddatblygu eu creadigrwydd, eu hyder, eu gallu cerddorol. Rydyn ni’n eu rhoi ar lwyfan. Ac wedyn, rydyn ni’n dod â’r llwyfan hwnnw atoch chi: rydyn ni’n perfformio ym mhob cwr o Gymru a ledled y Deyrnas Unedig.
“Mae Sinfonia Cymru wedi rhoi rhai profiadau bythgofiadwy i mi, ar draws ffiniau genres cerddorol. Mae’r prosiectau hyn wedi fy arwain i wneud penderfyniadau am fy ngyrfa na fyddwn efallai wedi’u gwneud fel arall. Rwyf wedi gallu gweithio gydag artistiaid a chyfoedion sydd wedi fy ysbrydoli i fentro ymhellach i lawr llwybr creadigrwydd ac archwilio ac ehangu fy ngorwelion cerddorol mewn ffyrdd na fyddwn erioed wedi gwybod eu bod yn bosibl.”
Simran Singh, cerddor
Helpwch ni i gefnogi mwy fyth o gerddorion ifanc
Yn fwy nag erioed o’r blaen, mae’r celfyddydau’n bwysig. Ac felly hefyd gerddorion ifanc heddiw. Bydd eich cefnogaeth yn ein helpu i gyrraedd mwy o gerddorion ifanc mwyaf talentog y DU fel y gallan nhw ffynnu. Mae pob tocyn a werthwn, pob cyfraniad gan Noddwr, pob grant gan Ymddiriedolaeth a phob partneriaeth fusnes yn ein galluogi i barhau i wneud hynny, flwyddyn ar ôl blwyddyn.
Sut gallwch chi ein cefnogi ni
Gallwch chi gyfrannu rhodd nawr – defnyddiwch y botwm ‘Cyfrannwch Rodd’ isod.
Neu gallwch chi ddarganfod mwy am sut y gallwch chi ein cefnogi ni fel Cyfaill neu Noddwr, trwy roi grant, neu ffurfio partneriaeth â ni trwy eich busnes.
Cysylltwch â Caroline Harris, Ymgynghorydd Datblygu, neu Caroline Tress, Prif Weithredwr, os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu os hoffech drafod cefnogaeth bosibl.
Diolch yn fawr i bawb sy’n cefnogi Sinfonia Cymru ar hyn o bryd.