Partneriaethau corfforaethol – perthynas â rhagoriaeth
Chwaraewyr Sinfonia Cymru yw perfformwyr mwyaf rhagorol eu cenhedlaeth, sêr yfory o safon fyd-eang. Rydyn ni’n mynd â cherddoriaeth i gynulleidfaoedd ym mhob cwr o Gymru a ledled y DU. Mae partneru â ni yn dod â’ch brand at sylw cynulleidfaoedd newydd ac yn taflu goleuni ar eich sefydliad.
Hyrwyddwch eich brand trwy noddi ein sefydliad, neu gyngerdd neu ddigwyddiad digidol, gyda’ch brand wedi’i nodi’n amlwg fel ein partner. Yn gyfnewid am hynny, byddwn ni’n archwilio’r hyn a fydd yn agor drysau i chi:
- Cydnabyddiaeth i’ch sefydliad ar ein gwefan, yn ein cyfryngau cymdeithasol ac yn ein rhaglenni
- Creu cyfleoedd unigryw i’ch cleientiaid trwy ddod â’ch gwesteion i gyngherddau a mwynhau derbyniad gyda’n chwaraewyr a’n hartistiaid
- Ar gyfer eich cleientiaid neu’ch tîm gwaith mwyaf gwerthfawr, gallwn gynnig perfformiad arbennig gan ein chwaraewyr mewn lleoliad o’ch dewis, a chyfleoedd unigryw, fel mynediad cefn llwyfan i’r broses ymarfer
Yn ogystal, gallwn eich helpu i gyflawni eich nodau cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol. Rhowch eich cefnogaeth i’n rhaglen ar gyfer ysgolion, er mwyn ysbrydoli cannoedd o blant. Cefnogwch ein rhaglenni ar gyfer chwaraewyr ar ddechrau eu gyrfaoedd, gan roi hwb i’w perfformiad a’u cyfleoedd datblygu proffesiynol a chreu cysylltiad am oes. Rhowch gyfle i bobl mewn cymunedau ledled Cymru fwynhau Sinfonia Cymru yn eu lleoliad lleol eu hunain, gan ddod â llawenydd cerddoriaeth i gynulleidfaoedd amrywiol.
“Mae Sinfonia Cymru yn ymfalchïo mewn chwalu’r profiad cerddorfaol ystrydebol. Maen nhw’n canolbwyntio ar gefnogi cerddorion ifanc a’u datblygiad, gan roi llwyfan iddyn nhw ddechrau eu gyrfaoedd. Maen nhw’n wych i’w gwylio. Mae’n ymddangos fel petai rhai o’r aelodau’n trawsnewid pan fyddan nhw’n dechrau chwarae, fel arweinydd yr adran linynnau. Caiff pob cymal ei gyflawni â chymaint o liwgarwch, wedi’i gyfoethogi gan ei hangerdd. Mae Sinfonia Cymru yn wledd o sain.”
Cylchgrawn Buzz, mis Mawrth 2019
Cysylltwch â ni i ddarganfod rhagor am sut y gall eich sefydliad ddatblygu cysylltiad â Sinfonia Cymru a’r cyfleoedd creadigol y gallwn eu cynnig. Cysylltwch â Caroline Harris, Ymgynghorydd Datblygu, neu Peter Bellingham, Prif Weithredwr.
Diolch i chi
Diolch i bawb sy’n cefnogi Sinfonia Cymru.