Rydym yn defnyddio cwcis o wasanaethau trydydd parti i'n helpu ni i wella ein gwefan.

Ymunwch â chymuned Sinfonia Cymru a helpwch i yrru ein gwaith ymlaen

Dewch yn Noddwr Sinfonia Cymru
Cefnogwch Sinfonia Cymru i roi’r dechrau gorau posibl i gerddorion ifanc yn eu gyrfaoedd proffesiynol. Fel un o Noddwyr Sinfonia Cymru, byddwch chi’n ymuno â’n cymuned o gefnogwyr, ac yn cael cyfleoedd i ymuno â ni mewn cyngherddau, cael newyddion a chyhoeddiadau cefn llwyfan, mynychu digwyddiadau arbennig achlysurol, mynd y tu ôl i’r llenni, a chwrdd â’n chwaraewyr.

Gallwch ddod yn Noddwr am gyn lleied â £10 y mis. Mae llawer o bobl yn dewis rhoi rhagor – fel arfer, mae ein Noddwyr yn rhoi £600, £240, neu £120 y flwyddyn. Gellir cyfrannu rhodd yn fisol neu’n flynyddol.

Sut i gyfrannu eich rhodd
Trefnu archeb sefydlog / gwneud trosglwyddiad banc / anfon siec: ar gyfer unrhyw un o’r opsiynau hyn, lawrlwythwch y ffurflen isod, llenwch yr adrannau perthnasol ac anfonwch y ffurflen atom trwy e-bost neu’r post.

Ffurflen Cefnogwyr & Rhodd Cymorth Sinfonia Cymru

Trefnu taliadau rheolaidd â cherdyn debyd neu gredyd: cliciwch ar y botwm ‘CYFRANNWCH RODD’ isod a dewiswch yr opsiwn i wneud taliadau misol neu flynyddol. Gallwn dderbyn taliadau trwy gerdyn debyd a cerdyn credyd.

Cyfrannwch rodd trwy ymddiriedolaeth elusennol neu â thaleb y Sefydliad Cymorth i Elusennau (CAF): os ydych chi’n cyfrannu rhoddion i nifer o elusennau, gallwch ddewis cyfrannu trwy ymddiriedolaeth gorfforaethol neu bersonol, neu efallai bod gennych gyfrif y Sefydliad Cymorth i Elusennau. A ninnau’n elusen gofrestredig (Rhif 1058196) rydyn ni’n falch o dderbyn rhoddion fel hyn. Lawrlwythwch y ffurflen ar y dudalen hon, llenwch yr adrannau perthnasol ac anfonwch y ffurflen atom trwy e-bost neu’r post.

Cyfrannu rhodd untro

Gallwch gyfrannu rhodd untro trwy glicio’r botwm ‘Cyfrannwch Rodd’ isod.

Cyfrannwch Rodd i Sinfonia Cymru

Rhodd Cymorth

Mae cyfrannu rhoddion i Sinfonia Cymru yn gymwys ar gyfer Rhodd Cymorth. Mae hyn yn golygu y gallwn adennill y dreth ar eich cefnogaeth heb unrhyw gost ychwanegol i chi. Mae hyn yn bwysig iawn i ni gan ei fod yn golygu y gallwn gynyddu gwerth eich rhodd 25%. Er enghraifft, gyda Rhodd Cymorth bydd cyfraniad o £100 yn werth £125, neu bydd cyfraniad o £600 yn werth £750. Mae angen i chi fod yn drethdalwr y DU ac yn talu treth incwm neu dreth ar enillion cyfalaf y DU i’r gwerth y byddwn ni (ac unrhyw elusennau cymwys eraill rydych chi’n eu cefnogi) yn ei hawlio ar eich cyfraniad. Os ydych chi’n gymwys, ticiwch y blwch Rhodd Cymorth os ydych chi’n rhoi ar-lein neu llenwch adran Rhodd Cymorth y ffurflen os ydych chi’n defnyddio’r post neu e-bost.

Ffyrdd eraill o gefnogi Sinfonia Cymru

Mae ffyrdd eraill y gallwch gefnogi Sinfonia Cymru:

  • Cyfrannu cymynrodd
  • Cyfrannu rhodd er anrhydedd i rywun arall
  • Rhoi drwy Gyflogres neu Roi Cyfatebol a legacy

Diolch i chi

Diolch i bawb sy’n cefnogi Sinfonia Cymru – mae eich cyfraniadau yn rhoi’r dechrau gorau posibl i yrfaoedd ein chwaraewyr.

Rhagor o wybodaeth

I ddarganfod rhagor am unrhyw agwedd ar gefnogaeth i Sinfonia Cymru, cysylltwch â Caroline Tress, Prif Weithredwr.

"Roedd mor hyfryd gweithio gyda chi i gyd ac rydw i mor hapus y llwyddon ni i gael popeth i weithio, yn enwedig ar ôl rhwystr yr eira."
–Amy Wheel, Cynhyrchydd BBC R3

Cefnogwch Sinfonia Cymru

Cyfrannwch rodd nawr i roi’r dechrau gorau posibl i gerddorion ifanc yn eu gyrfaoedd proffesiynol.

Darllen rhagor