Ymddiriedolaethau a chyllidwyr cyhoeddus – sylfaen y gefnogaeth
Mae ymddiriedolaethau a chyllidwyr cyhoeddus yn darparu sylfaen hanfodol o fuddsoddiad sy’n ei gwneud yn bosibl i Sinfonia Cymru roi’r cyfleoedd gorau i gerddorion proffesiynol ifanc.
Mae grantiau’n galluogi ffyniant ein prosiectau ar gyfer chwaraewyr, ysgolion a chynulleidfaoedd newydd. Allwch chi ein helpu ni? Byddem yn croesawu sgyrsiau am:
- Brosiectau datblygu proffesiynol ar gyfer ein chwaraewyr, er mwyn darparu cyfleoedd eithriadol ar gyfer perfformio a datblygu wrth iddynt gychwyn ar eu gyrfaoedd. Mae mwy o angen y rhain ar hyn o bryd nag erioed o’r blaen.
- Mynd â’n cerddoriaeth at gynulleidfaoedd ym mhob cwr o Gymru, yn enwedig at bobl na fyddent fel arall yn cael cyfle i fynychu cyngherddau, neu na fyddent efallai’n meddwl bod cerddoriaeth glasurol yn rhywbeth ar eu cyfer nhw.
- Grantiau artistig, i’n galluogi i ddatblygu meysydd newydd o raglennu, comisiynu gweithiau newydd, a rhoi cyfle i’n chwaraewyr weithio gyda’r artistiaid gorau a mwyaf cyffrous.
- Grantiau addysgol, fel y gallwn barhau â’n prosiectau gydag ysgolion, gan gyflwyno cannoedd o blant i’n chwaraewyr ac i gerddoriaeth glasurol.
“Roeddwn i am ddweud diolch am y cyfle gwych i greu fy ngherddoriaeth fy hun. Mae’r profiad wedi agor llwybrau newydd ac rydw i’n sicr yn teimlo yr hoffwn i wneud hyn fel rhan annatod o’m bywyd cerddorol.”
Abel Selaocoe, curadur #MotherTongue, mis Mai 2019
Byddem yn croesawu trafod sut y gallwn bartneru â’n gilydd i gyflawni nodau a rennir. Cysylltwch â Caroline Harris, Ymgynghorydd Datblygu, neu Peter Bellingham, Prif Weithredwr.
Diolch i’r holl ymddiriedolaethau, sefydliadau a chyllidwyr cyhoeddus sy’n gweithio gyda ni ar hyn o bryd i ddatblygu gyrfaoedd cerddorion proffesiynol ifanc rhagorol.