Pwy ydym ni?
Nid cerddorfa gyffredin mohonom. Rydyn ni’n rhoi cerddorion proffesiynol ifanc, eithriadol ar y llwyfan, lle maen nhw’n haeddu bod. Mae llawer o’n chwaraewyr yn cymryd yr awenau ac yn arwain ein prosiectau, gan wibio rhwng arddulliau clasurol a modern, archwilio eu creadigrwydd a herio arferion.
A’r peth gorau? Rydyn ni’n dod â’r genhedlaeth newydd hon o gerddoriaeth fyw i chi. Profiadau cerddorol rhyfeddol, wedi’u cynllunio a’u cyflwyno gan y cerddorion ifanc gorau, ar gyfer cynulleidfaoedd yng Nghymru a thu hwnt.
Darllen rhagor