Ynghylch
Y brif gerddorfa yn y Deyrnas Unedig i bobl dan 30 oed. Cenhedlaeth newydd o gerddoriaeth fyw.
Nid cerddorfa gyffredin mo Sinfonia Cymru. Rydyn ni’n hoffi gwneud pethau’n wahanol. Glynu wrth y llyfr rheolau a dilyn y dorf? Nid dyna’n steil.
I ddechrau, mae ein holl chwaraewyr yn iau na 30 oed. Mae llawer o’n chwaraewyr yn cymryd yr awenau ac yn arwain ein prosiectau, gan wibio rhwng arddulliau clasurol a modern, archwilio eu creadigrwydd a herio arferion. Rydyn ni’n rhoi rhai o’r cerddorion proffesiynol mwyaf dawnus yn y Deyrnas Unedig ar y llwyfan, lle maen nhw’n haeddu bod, fel y gallan nhw ffurfio eu gyrfaoedd a datblygu eu dawn gerddorol.
Maen nhw, yn eu tro, yn dod ag ysbryd arbennig i’w cerddoriaeth, gan greu perfformiadau sy’n llawn egni, cyffro a phŵer. Dyna sut y dylai cerddoriaeth gael ei phrofi.
Weithiau, rydyn ni’n cynnal cyngherddau mwy traddodiadol – fe welwch ni’n perfformio popeth o ensembles llinynnol bach i weithiau symffoni llawn rhyfeddol. Ar y llaw arall, rydyn ni wrth ein bodd yn gwthio ffiniau cerddorol gyda pherfformiadau cerddorol personol mewn amrywiaeth o arddulliau dynamig – jazz, enaid-ffync, cerddoriaeth y byd a llawer, llawer mwy.
A’r peth gorau? Rydyn ni’n dod â’r genhedlaeth newydd hon o gerddoriaeth fyw i chi. Profiadau cerddorol rhyfeddol, wedi’u cynllunio a’u cyflwyno gan y cerddorion ifanc gorau, ar gyfer cynulleidfaoedd yng Nghymru a thu hwnt.
Ein cenhadaeth yw datblygu’r cerddorion ifanc neilltuol hyn a rhoi cyfle go iawn iddyn nhw lansio eu gyrfaoedd. Trwy wneud hynny, rydyn ni’n dod â cherddoriaeth fyw ysbrydoledig ac awyrgylch diysgog i bobl mewn lleoliadau annisgwyl.
Ond ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Profwch gerddoriaeth fyw o fath gwahanol gyda Sinfonia Cymru ac ymunwch â’n cymuned arbennig.