Penwythnos Haf #5
Cyhoeddwyd Dydd Iau 12 Awst 2021Mae Gŵyl Penwythnos Haf Sinfonia Cymru yn cynnwys 14 o fideos newydd yn ogystal â 4 o’n hoff ddewisiadau o’r catalog presennol. Mae tair rhan i’r ŵyl: Dewisiadau Chwaraewyr, lle mae ein chwaraewyr chwythbrennau wedi dewis eu hoff ddarnau; Curate, lle rydyn ni’n rhoi cyfle i gerddorion greu a datblygu eu rhaglen eu hunain ar y thema o’u dewis; ac Ail Gyfle, sy’n cynnwys pedwar o’n hoff ddarnau presennol.
Ymunwch â ni o ddydd Gwener 20 i ddydd Sul 22 Awst am wledd o gerddoriaeth yn amrywio o Hamilton Harty i Joseph Haydn, Clara Schumann i John Stanley, Arvo Pärt i Francis Poulenc, a Rene Griffiths i’r Red Hot Chili Peppers.
Sesiwn 5 – Dydd Sul 22 Awst, 12pm
Byddwn yn dechrau diwrnod olaf yr Ŵyl Penwythnos Haf gyda Liten Statymusic (Cerddoriaeth Ddelw) gan y cyfansoddwr o Sweden, Stefan Klaverdal, wedi’i chwarae gan Camilla Marchant (ffliwt), Will Knight (clarinét) ac Emily Newman (basŵn). Byddwn hefyd yn clywed Elgar yn cael ei chwarae gan y baswnydd Matthew Kitteringham, a’r cyntaf o Three Romances Clara Schumann wedi’i chwarae gan Katherine Bryer, a’r ddau wedi’u cyfeilio gan Hamish Brown (piano). Mae ein dewis Ail Gyfle ar gyfer y sesiwn hon yn dod o raglen Curate gynharach gan Helen Wilson, sef Profit, People, Planet. Y darn yw Was Blind But Now I See ac mae’n cynnwys Helen yn chwarae’r ffliwt ac Abel Selaocoe yn chwarae’r sielo ac yn canu.
Rhaglen
- Stefan Klaverdal Liten Statymusik
- Edward Elgar Romance for Bassoon
- Clara Schumann Three Romances - No.1
- Helen Wilson Was Blind But Now I See