Rydym yn defnyddio cwcis o wasanaethau trydydd parti i'n helpu ni i wella ein gwefan.
Perfformiad digidol

Penwythnos Haf #5

Cyhoeddwyd Dydd Iau 12 Awst 2021

Mae Gŵyl Penwythnos Haf Sinfonia Cymru yn cynnwys 14 o fideos newydd yn ogystal â 4 o’n hoff ddewisiadau o’r catalog presennol. Mae tair rhan i’r ŵyl: Dewisiadau Chwaraewyr, lle mae ein chwaraewyr chwythbrennau wedi dewis eu hoff ddarnau; Curate, lle rydyn ni’n rhoi cyfle i gerddorion greu a datblygu eu rhaglen eu hunain ar y thema o’u dewis; ac Ail Gyfle, sy’n cynnwys pedwar o’n hoff ddarnau presennol.

Ymunwch â ni o ddydd Gwener 20 i ddydd Sul 22 Awst am wledd o gerddoriaeth yn amrywio o Hamilton Harty i Joseph Haydn, Clara Schumann i John Stanley, Arvo Pärt i Francis Poulenc, a Rene Griffiths i’r Red Hot Chili Peppers.

Sesiwn 5 – Dydd Sul 22 Awst, 12pm

Byddwn yn dechrau diwrnod olaf yr Ŵyl Penwythnos Haf gyda Liten Statymusic (Cerddoriaeth Ddelw) gan y cyfansoddwr o Sweden, Stefan Klaverdal, wedi’i chwarae gan Camilla Marchant (ffliwt), Will Knight (clarinét) ac Emily Newman (basŵn). Byddwn hefyd yn clywed Elgar yn cael ei chwarae gan y baswnydd Matthew Kitteringham, a’r cyntaf o Three Romances Clara Schumann wedi’i chwarae gan Katherine Bryer, a’r ddau wedi’u cyfeilio gan Hamish Brown (piano). Mae ein dewis Ail Gyfle ar gyfer y sesiwn hon yn dod o raglen Curate gynharach gan Helen Wilson, sef Profit, People, Planet. Y darn yw Was Blind But Now I See ac mae’n cynnwys Helen yn chwarae’r ffliwt ac Abel Selaocoe yn chwarae’r sielo ac yn canu.

Rhaglen

  1. Stefan Klaverdal Liten Statymusik
  2. Edward Elgar Romance for Bassoon
  3. Clara Schumann Three Romances - No.1
  4. Helen Wilson Was Blind But Now I See

Cefnogwch Sinfonia Cymru

Cyfrannwch rodd nawr i roi’r dechrau gorau posibl i gerddorion ifanc yn eu gyrfaoedd proffesiynol.

Darllen rhagor