Rydym yn defnyddio cwcis o wasanaethau trydydd parti i'n helpu ni i wella ein gwefan.
Cyfleoedd

Galwad am awduron!

Cyhoeddwyd Dydd Mawrth 8 Tachwedd 2022

Yn nhymor y gwanwyn bob blwyddyn mae Sinfonia Cymru’n trefnu prosiect ysgolion ym Mhowys, ac rydym yn chwilio am gyfleoedd i gydweithio gydag awdur ar brosiect gwanwyn 2023.

Bob mis Chwefror/Mawrth, mae Sinfonia Cymru’n gweithio gyda 6 o ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg ym Mhowys, gan gyflenwi diwrnod o weithdai cyfansoddi cân i ddosbarth CA2 ym mhob ysgol, ac maent yn cyfansoddi cân yn gysylltiedig â stori. Yn dilyn hynny, mae’r stori gyfan yn cael ei pherfformio mewn theatr (Brycheiniog, Wyeside a Hafren) gydag adroddwr straeon, a cherddorion Sinfonia Cymru yn perfformio darnau o gerddoriaeth sy’n gysylltiedig â’r stori, yn cynnwys y gân a grëir gan bob ysgol. Mae’n ffordd hyfryd o gael y disgyblion i weithio’n agos gyda’r cerddorion yn y cam gweithdy i greu eu geiriau a’u cerddoriaeth eu hunain, ac yna mae gweddill yr ysgol yn cael gwahoddiad i fynychu’r perfformiad a mwynhau’r profiad o wylio perfformiad proffesiynol mewn theatr. Rydym hefyd yn estyn gwahoddiad i holl ysgolion yr ardal i’r perfformiadau, ac fel arfer mae’r rhaglen yn cynnwys caneuon eraill i’r ysgolion eu dysgu ac ymuno yn y canu yn ystod y perfformiadau.

Eleni byddem yn hoffi cyflogi awdur a fyddai hefyd yn gallu gweithredu fel adroddwr straeon yn ystod y perfformiadau. Rydym yn agored i awgrymiadau o ran thema’r stori, ond byddem yn hoffi naill ai rhywbeth sy’n hybu plant i ddysgu am faterion cymdeithasol, lles neu lên gwerin, neu rywbeth a fydd yn eu helpu i ddysgu am Gymru, ei hanes a’i diwylliant. Byddent yn cydweithio’n agos â chyfansoddwr i ymgorffori caneuon i mewn i’r stori (y geiriau i’w hysgrifennu gan gyfansoddwr y gân, ynghyd â’r plant sy’n cymryd rhan yn y prosiect).

Dyddiadau’r prosiect yw:

Gweithdai
– Wythnosau’n dechrau 27 Chwefror a 6 Mawrth

Perfformiadau
– 15 Mawrth – Wyeside
– 16 Mawrth – Hafren
– 20 Mawrth – Brycheiniog

Gallwch weld enghraifft o brosiect y llynedd yma (dim ond mewn ysgolion y cyflwynwyd y prosiect hwnnw gan nad oedd modd i ni fynd i mewn i theatrau y gwanwyn diwethaf).

Am ragor o enghreifftiau o brosiectau’r gorffennol, a drefnwyd gan Ymddiriedolaeth Cerddoriaeth Canolbarth Cymru, ewch i’r wefan hon.

Gofynnwn am un ochr o bapur A4 yn dweud wrthym am eich profiadau fel awdur/adroddwr straeon/actor ac o weithio gyda phobl ifanc. Gallwch gynnwys awgrymiadau ar gyfer stori, ond nid yw hyn yn angenrheidiol yn y cam yma.

Ffi: Rydym yn rhagweld bod angen 5 – 7 diwrnod i ysgrifennu’r stori/ cynllunio, a 3 diwrnod ar gyfer y perfformiadau ar gyfradd o £225 y dydd.

Y dyddiad olaf ar gyfer derbyn ceisiadau yw dydd Gwener, 18 Tachwedd 2022; anfonwch eich cais at y canlynol:
Caroline Tress, Prif Weithredwr, Sinfonia Cymru caroline@sinfonia.cymru
Tammy Daly, Rheolwr Cyffredinol, Sinfonia Cymru tammy@sinfonia.cymru

Cefnogwch Sinfonia Cymru

Cyfrannwch rodd nawr i roi’r dechrau gorau posibl i gerddorion ifanc yn eu gyrfaoedd proffesiynol.

Darllen rhagor