Deuawd sielo annisgwyl…
Cyhoeddwyd Dydd Mercher 25 Mawrth 2020Ac yntau’n perfformio gyda’r gerddorfa am y tro cyntaf yn ôl ym mis Mawrth 2019, arweiniodd Jonathan Bloxham daith y gwerthwyd pob tocyn ar ei chyfer gyda Sheku Kanneh-Mason a Sinfonia Cymru, ychydig cyn ei ben-blwydd yn 30 oed.
“Mae creu cerddoriaeth gyda chwaraewyr Sinfonia Cymru yn drît go iawn i arweinydd. Maen nhw nid yn unig yn chwarae ar lefel dechnegol eithriadol, ond hefyd mae eu didwylledd, eu chwilfrydedd, eu parodrwydd i arbrofi ac, yn bwysicaf oll, eu gallu i gael hwyl yn ysbrydoliaeth!” meddai’r arweinydd Jonathan Bloxham.
Yn ogystal â dangos ei ddoniau fel arweinydd, ymunodd Jonathan â Sheku ar gyfer encôr deuawd sielo mewn dau o’r cyngherddau!
Gwrandewch ar y cyngerdd eto ar BBC Radio 3 (ar gael tan 9 Awst).