
Trumpet Sensation
Yn ddim ond 23, mae Lucienne Renaudin Vary eisioes wedi cael gyrfa anhygoel fel trwmpedwr clasurol a jazz. Wedi ei disgrifio fel ‘trumpet sensation’ mae wedi ennill gwobrau lu am ei doniau ers yn ifanc iawn. Mae arweinwyr ac artistiaid o bob math yn rhyfeddu at ei thalent a’i dawn cerddorol rhagorol.
Mae’r rhaglen hon yn cyfuno repertoire clasurol a jazz wedi ei dylanwadu gan strydoedd Ffrainc ac Efrog Newydd. Yn y rhan gyntaf, cewch glywed fersiwn ensemble bach Siegfried Idyll, Wagner a’r anhygoel Trumpet Concerto gan Hummel. Y gerddorfa sy’n agor yr ail ran gyda Le Tombeau de Couperin, Ravel cyn newid naws wrth inni fwynhau darnau o’i halbwm gyda Cherddorfa Gyngerdd y BBC, trefniant Bill Elliot o Mademoiselle in New York.
Mae ‘Peidiwch a cholli’r cyfle’ yn cliché sy’n cael ei ddefnyddio’n ormodol. Ond wir, peidiwch a methu’r cyfle hwn – bydd y perfformiadau yma yn arbennig iawn, iawn.