Rydym yn defnyddio cwcis o wasanaethau trydydd parti i'n helpu ni i wella ein gwefan.

Sinfonia Cymru & Timothy Ridout

Dydd Iau 18 Tachwedd 2021 - Dydd Sadwrn 20 Tachwedd 2021

Y rhaglen ensemble llinynnau hon fydd ein cyngerdd cerddorfaol cyntaf ers bron dwy flynedd. Ymunwch â ni ar gyfer yr hyn sy’n addo bod yn noson wefreiddiol gyda’r unawdwr / cyfarwyddwr gwadd, Timothy Ridout, feiolinydd Prydeinig ac Artist Cenhedlaeth Newydd cyfredol BBC Radio 3.

Mae Timothy yn eithriadol o ddawnus a does dim syndod bod galw mawr amdano fel unawdwr a cherddor siambr. Ar gyfer y daith hon, mae wedi llunio rhaglen amrywiol sy’n dangos y fiola ar ei gorau, gan gynnwys cerddoriaeth wych gan Telemann, Mozart a Schubert a concerto gan JS Bach. Mae’r rhaglen hon a arweinir gan chwaraewr yn sicr o fod yn noson wefreiddiol ac yn ffordd berffaith o ddychwelyd i gyngherddau.

Efallai y gwelsoch chi berfformiadau diwethaf Timothy gyda Sinfonia Cymru yn 2018, pan chwaraeodd y Sinfonia Concertante gan Mozart gyda Benjamin Baker ar gyfer darllediad cyntaf y gerddorfa ar BBC Radio 3. Tarwyd cynulleidfaoedd gan gerddoroldeb a meistrolaeth anhygoel y deuawd a’r gerddorfa, ac mae’r cyngerdd hwn yn addo ail-greu’r profiad hwnnw.

Hyd y cyngerdd yn fras, gan gynnwys egwyl: 1 awr 40

Rhaglen

  1. Heinrich Biber Battalia
  2. Georg Philip Telemann Viola Concerto in G major
  3. Wolfgang Amadeus Mozart Adagio and Fugue, K.546
  4. Johann Sebastian Bach Viola Concerto
  5. Dobrinka Tabakova Such Different Paths
  6. Franz Schubert, arr. Tabakova Arpeggione Sonata

Cefnogwch Sinfonia Cymru

Cyfrannwch rodd nawr i roi’r dechrau gorau posibl i gerddorion ifanc yn eu gyrfaoedd proffesiynol.

Darllen rhagor