
Pride & Joy
Caiff Pride & Joy ei guradu gan Joy Becker, y fiolinydd, cantores a chyfansoddwr caneuon. Yn ymuno â hi mae ensemble o bump o offerynnau llinynnol ac offerynnau taro ar gyfer y perfformiad hwn o ‘iachâd a dathlu’, sy’n ffocysu ar lesiant a meithrin yn eu gwahanol ffurfiau. Bydd yr holl gerddoriaeth a gyflwynir yn waith cyfansoddwyr LGBTQIA+ gyda’r nod o ddathlu’r gymuned Queer mewn cerddoriaeth. Gallwch edrych ymlaen at ystod eang o arddulliau cerddorol, o’r clasurol i David Bowie, a cherddoriaeth werin wreiddiol a chyfoes gan Joy ei hun. Anghofiwch am bwysau bywyd, a dewch draw am wledd o gerddoriaeth yr enaid.
Eisteddwch yn ôl, ymlacio, a mwynhau’r gerddoriaeth. Does dim gwell ffordd o dreulio prynhawn Sul.