
Bridge, Turina, Pejacevic
Mae’r casgliad hwn o dri chyfansoddwr llai adnabyddus yn cynrychioli creu cerddoriaeth ar gyrion Ewrop ar ddechrau’r ugeinfed ganrif – Dora Pejacevic o Groatia yn y dwyrain, Turina o Sbaen yn y gorllewin, a Frank Bridge o Brydain yn y gogledd. Addysgwyd y tri, a’u trochi, yn yr arddull gref sydd mor gyfarwydd i ni fel rhai sy’n gwrando ar gerddoriaeth glasurol, sef arddull cyfansoddwyr o’r Almaen ac Awstria – Beethoven, Schumann, Wagner, Strauss, Mahler. Ond er bod eu cerddoriaeth yn swnio’n gyfarwydd, maent hefyd yn ein cyfareddu trwy bupro’u cyfansoddiadau â gwahanol seiniau a lliwiau, gan ein hatgoffa eu bod yn dod o lefydd gwahanol, o fydoedd cerddorol gwahanol. Bydd ein pedwarawd o gerddorion yn cyd-deithio gyda chi drwy’r amrywiaeth hon o gerddoriaeth, gan newid yn gyson i gyflwyno gwahanol flasau o bob rhan o Ewrop.
Joy Becker Ffidil
Francesca Gilbert Fiola
Ben Tarlton Soddgrwth
Joe Howson – Piano
Rhaglen
- Dora Pejačević Piano Quartet in D minor, Op. 25
- Frank Bridge Phantasy for Piano Quartet, H. 94
- Joaquín Turina Piano Quartet in A minor, Op. 67