Sinfonia Cymru & Timothy Ridout
Y rhaglen ensemble llinynnau hon fydd ein cyngerdd cerddorfaol cyntaf ers bron dwy flynedd. Ymunwch â ni ar gyfer yr hyn sy’n addo bod yn noson wefreiddiol gyda’r unawdwr / cyfarwyddwr gwadd, Timothy Ridout, feiolinydd Prydeinig ac Artist Cenhedlaeth Newydd cyfredol BBC Radio 3.
Mae Timothy yn eithriadol o ddawnus a does dim syndod bod galw mawr amdano fel unawdwr a cherddor siambr. Ar gyfer y daith hon, mae wedi llunio rhaglen amrywiol sy’n dangos y fiola ar ei gorau, gan gynnwys cerddoriaeth wych gan Telemann, Mozart a Schubert a concerto gan JS Bach. Mae’r rhaglen hon a arweinir gan chwaraewr yn sicr o fod yn noson wefreiddiol ac yn ffordd berffaith o ddychwelyd i gyngherddau.
Efallai y gwelsoch chi berfformiadau diwethaf Timothy gyda Sinfonia Cymru yn 2018, pan chwaraeodd y Sinfonia Concertante gan Mozart gyda Benjamin Baker ar gyfer darllediad cyntaf y gerddorfa ar BBC Radio 3. Tarwyd cynulleidfaoedd gan gerddoroldeb a meistrolaeth anhygoel y deuawd a’r gerddorfa, ac mae’r cyngerdd hwn yn addo ail-greu’r profiad hwnnw.
Hyd y cyngerdd yn fras, gan gynnwys egwyl: 1 awr 40
Rhaglen
- Heinrich Biber Battalia
- Georg Philip Telemann Viola Concerto in G major
- Wolfgang Amadeus Mozart Adagio and Fugue, K.546
- Johann Sebastian Bach Viola Concerto
- Dobrinka Tabakova Such Different Paths
- Franz Schubert, arr. Tabakova Arpeggione Sonata