Penwythnos Haf #7
Cyhoeddwyd Dydd Iau 12 Awst 2021Mae Gŵyl Penwythnos Haf Sinfonia Cymru yn cynnwys 14 o fideos newydd yn ogystal â 4 o’n hoff ddewisiadau o’r catalog presennol. Mae tair rhan i’r ŵyl: Dewisiadau Chwaraewyr, lle mae ein chwaraewyr chwythbrennau wedi dewis eu hoff ddarnau; Curate, lle rydyn ni’n rhoi cyfle i gerddorion greu a datblygu eu rhaglen eu hunain ar y thema o’u dewis; ac Ail Gyfle, sy’n cynnwys pedwar o’n hoff ddarnau presennol.
Ymunwch â ni o ddydd Gwener 20 i ddydd Sul 22 Awst am wledd o gerddoriaeth yn amrywio o Hamilton Harty i Joseph Haydn, Clara Schumann i John Stanley, Arvo Pärt i Francis Poulenc, a Rene Griffiths i’r Red Hot Chili Peppers.
Sesiwn 7 – Dydd Sul 22 Awst, 6.30pm
Ar gyfer sesiwn olaf ein Gŵyl Penwythnos Haf, byddwn yn canolbwyntio ar un arall o’n rhaglenni Curate. Curadwyd yr un yma gan y trwmpedwr Gideon Brooks. Teithiwn i’r Ariannin ac, wrth gwrs, Cymru ar gyfer Two Nation’s Tango sy’n cynnwys cerddoriaeth gan Piazzolla, Carlos Gardel, Rene Griffiths a Gideon Brooks.
Rhaglen
- Astor Piazzolla, arr. Gideon Brooks La Muerte del Angel
- Carlos Gardel, arr. Gideon Brooks Por Una Cabeza
- Rene Griffiths, arr. Gideon Brooks Heno Mae'n Bwrw Cwrw
- Trad, arr. Gideon Brooks Two Nations' Tango