Rydym yn defnyddio cwcis o wasanaethau trydydd parti i'n helpu ni i wella ein gwefan.
Perfformiad digidol

Penwythnos Haf #7

Cyhoeddwyd Dydd Iau 12 Awst 2021

Mae Gŵyl Penwythnos Haf Sinfonia Cymru yn cynnwys 14 o fideos newydd yn ogystal â 4 o’n hoff ddewisiadau o’r catalog presennol. Mae tair rhan i’r ŵyl: Dewisiadau Chwaraewyr, lle mae ein chwaraewyr chwythbrennau wedi dewis eu hoff ddarnau; Curate, lle rydyn ni’n rhoi cyfle i gerddorion greu a datblygu eu rhaglen eu hunain ar y thema o’u dewis; ac Ail Gyfle, sy’n cynnwys pedwar o’n hoff ddarnau presennol.

Ymunwch â ni o ddydd Gwener 20 i ddydd Sul 22 Awst am wledd o gerddoriaeth yn amrywio o Hamilton Harty i Joseph Haydn, Clara Schumann i John Stanley, Arvo Pärt i Francis Poulenc, a Rene Griffiths i’r Red Hot Chili Peppers.

Sesiwn 7 – Dydd Sul 22 Awst, 6.30pm

Ar gyfer sesiwn olaf ein Gŵyl Penwythnos Haf, byddwn yn canolbwyntio ar un arall o’n rhaglenni Curate. Curadwyd yr un yma gan y trwmpedwr Gideon Brooks. Teithiwn i’r Ariannin ac, wrth gwrs, Cymru ar gyfer Two Nation’s Tango sy’n cynnwys cerddoriaeth gan Piazzolla, Carlos Gardel, Rene Griffiths a Gideon Brooks.

Rhaglen

  1. Astor Piazzolla, arr. Gideon Brooks La Muerte del Angel
  2. Carlos Gardel, arr. Gideon Brooks Por Una Cabeza
  3. Rene Griffiths, arr. Gideon Brooks Heno Mae'n Bwrw Cwrw
  4. Trad, arr. Gideon Brooks Two Nations' Tango

Cefnogwch Sinfonia Cymru

Cyfrannwch rodd nawr i roi’r dechrau gorau posibl i gerddorion ifanc yn eu gyrfaoedd proffesiynol.

Darllen rhagor