Rydym yn defnyddio cwcis o wasanaethau trydydd parti i'n helpu ni i wella ein gwefan.
Artistiaid gwestai | Newyddion

Sinfonia Cymru, Patrick Rimes a Cerys Hafana yn gwahodd cynulleidfaoedd ar daith unigryw o Gymru yn Chwefror!

Datganiad i’r Wasg 18.01.24
Cyhoeddwyd Dydd Gwener 19 Ionawr 2024

Cerddorfa fywiog a chyfoes yw Sinfonia Cymru, sy’n chwalu’r rhwystrau i sicrhau bod cerddoriaeth gerddorfaol yn hygyrch i bawb yng Nghymru. Mae cyngherddau Sinfonia Cymru’n adnabyddus am fod yn unrhyw beth ond cyffredin, a dyw eleni ddim yn eithriad wrth iddyn nhw ddechrau tymor 2024 gyda chydweithrediad newydd Cymreig a thaith yng nghwmni’r fiolinydd Patrick Rimes a’r gantores a thelynores Cerys Hafana.

“Pleser o’r mwyaf yw dechrau tymor 2024 gyda phrosiect newydd ac unigryw gyda Patrick a Cerys. Ry’n ni wrth ein bodd yn cymysgu gwahanol elfennau, a pherfformio amrywiaeth eang o gerddoriaeth. Wedi bod yn yr ymarfer cyntaf, gallaf eich sicrhau bod y cyngerdd hwn yn un arbennig; yn gyfuniad o gerddoriaeth bwerus, seiniau unigryw a chaneuon syfrdanol – angylaidd, bron – gan Cerys. Mae’n codi croen gwydd wrth feddwl amdano ac ry’n ni’n gyffous iawn i’w rannu gyda’n cynulleidfaoedd!” Caroline Tress, Prif Weithredwr Sinfonia Cymru.

Mae Patrick Rimes – sydd wedi ennill gwobrau lu fel artist recordio, fiolinydd, cyfansoddwr a threfnydd cerddoriaeth – wedi teithio’n eang yn y DU, Ewrop a Gogledd America gyda’i fandiau Calan a VRï. Perfformir ei waith yn gyson gan y prif gerddorfeydd, ac mewn cyngherddau gyda sêr fel Syr Bryn Terfel a Sting. Yn y cydweithrediad newydd hwn gyda Sinfonia Cymru, mae Patrick wrth ei fodd yn cael cyfle o’r diwedd i greu a pherfformio cerddoriaeth sy’n ei gysylltu gyda’i ardal enedigol annwyl – Eryri:

“I fi, mae creu cerddoriaeth yn ffordd o geisio gwneud i fy hun deimlo fy mod yn perthyn. Mae cyfrannu at ganeuon Cymraeg traddodiadol wedi caniatáu i mi gysylltu â Chymru, ond mae’r cyngerdd hwn yn fy ngalluogi i fod yn fwy penodol, i greu cerddoriaeth sy’n fy nghysylltu efo fy ngwir gartref – Eryri. Drwy chwarae cerddoriaeth Gymreig draddodiadol, a chyfrannu fy alawon fy hun mewn ffurfiau dawns newydd, byddai’n rhannu fy straeon am ddringo mynyddoedd fel Tryfan gyda fy nheulu, sy’n caru dringo, gwersylla dan y sêr ar y copaon hynafol, a byddwn ni’n archwilio’r enwau a’r traddodiadau sy’n gysylltiedig efo’r tirlun dramatig yma. Bydd cyflwyno harddwch Eryri i gynulleidfaoedd ledled Cymru yn brofiad arbennig ac yn llawn hud a lledrith.” Patrick Rimes.

Mae Cerys Hafana o Fachynlleth yn adnabyddus fel offerynnwr gwerin arbrofol sy’n defnyddio cyfuniad eclectig o offerynnau, yn cynnwys y delyn a’i llais unigryw, i archwilio posibiliadau newydd a seiniau newydd. Mae hi wedi perfformio’n eang ar draws y DU ac mewn amryw o wyliau, o’r Interceltique yn Lorient i’r Dyn Gwyrdd, yn ogystal ag mewn sesiynau radio byw ar Radio 3 a Radio 6 Music. Yn y cydweithrediad newydd hwn, bydd Cerys yn archwilio seiniau newydd ac yn rhannu traciau poblogaidd o’i halbwm arobryn Edyf, a enwyd gan y Guardian fel un o Ddeg Uchaf yr Albymau Gwerin yn 2022 a’i gynnwys ar y rhestr fer am y Wobr Cerddoriaeth Gymreig yn 2023:

“Ges i fy ngeni mewn dyffryn hanesyddol yng Nghymru, mewn ardal wedi’i hamgylchynu ag afonydd a golygfeydd o’r môr, ac mae’r tirlun anhygoel yma a’i synau bob amser wedi fy ysbrydoli i a ’ngherddoriaeth. ‘Dwi wrth fy modd yn cael cydweithio efo Patrick a cherddorion gwych Sinfonia Cymru i gyflwyno taith Gymreig unigryw a chofiadwy i’n cynulleidfaoedd.” Cerys Hafana.

Ar hyn o bryd mae gan Sinfonia Cymru 40 o gerddorion ar eu llyfrau – mae’r cyfan dan 30 oed ac yn cynnwys rhai o’r offerynwyr gorau yn y DU. Mae pawb sy’n rhan o’r prosiect hwn yn dod o Gymru, yn cynnwys Mabon Llŷr Rhyd (fiola) ac Esme Lewis (ffidil) o ogledd Cymru, ac Edward Mead (soddgrwth), Elen Roberts (bas dwbl), a Harry Lovell-Jones (offerynnau taro) o dde Cymru.

“Mae pob un o’n prosiectau’n galw am sgiliau a genres gwahanol. Gyda ffocws mor gryf ar Gymru a seiniau unigryw ein gwlad, mae’n wych bod pawb sy’n gysylltiedig â’r prosiect hwn i gyd yn Gymry. Mae ein holl brosiectau’n rhai cydweithredol; daw’r cerddorion at ei gilydd i ymarfer am gyfnod byr, ac mae’r ffaith eu bod i gyd yn siarad Cymraeg ac yn rhannu’r cysylltiad hwn a’u cariad at Gymru yn sicr o arwain at arlwy cwbl arbennig ar gyfer ein cynulleidfaoedd ym mis Chwefror.” Tammy Daly, Rheolwr Cyffredinol.

Mae cyfle i chi weld Sinfonia Cymru gyda Patrick Rimes a Cerys Hafana yn y canolfannau canlynol y mis Chwefror hwn; mae’r tocynnau ar werth nawr ar www.sinfonia.cymru neu cysylltwch yn uniongyrchol â’r canolfannau.

Dydd Mercher 7 Chwefror – Glanyrafon, Casnewydd @13:00 (Tocynnau o £6.50)
Dydd Mercher 7 Chwefror – Porters, Caerdydd @21.00 *Dim angen tocynnau.
Dydd Iau 8 Chwefror – Pontio, Bangor @19:30 (Tocynnau o £7.50)
**Dydd Sadwrn 10 Chwefror – Amgueddfa Ceredigion Aberystwyth @19:00 (Tocynnau o £3.00)

**DS: cyngerdd yw hwn gyda Sinfonia Cymru yng nghwmni Patrick Rimes a Gwestai Arbennig!

Am ragor o wybodaeth, neu i drefnu cyfweliadau, mae croeso i chi gysylltu â Heulwen Davies, Ymgynghorydd Marchnata Sinfonia Cymru, ar heulwen@llaiscymru.wales / 07817 591930.

Cefnogwch Sinfonia Cymru

Cyfrannwch rodd nawr i roi’r dechrau gorau posibl i gerddorion ifanc yn eu gyrfaoedd proffesiynol.

Darllen rhagor