Rydym yn defnyddio cwcis o wasanaethau trydydd parti i'n helpu ni i wella ein gwefan.
Newyddion

Mae Sinfonia Cymru yn serennu yng nghyfres newydd Sky Arts’, New Musical Masterpieces Series, gyda Myleene Klass ac Errollyn Wallen CBE!

(English) Press Release 12.09.23
Cyhoeddwyd Dydd Mawrth 12 Medi 2023

Cerddorfa Gymreig ddynamig a chyfoes yw Sinfonia Cymru, ac mae ei haelodau i gyd dan 30 oed – ymhlith y cerddorion proffesiynol gorau o Gymru a’r byd. Yn sefydliad sy’n falch o gefnogi a rhoi cyfleoedd amrywiol i gerddorion ifanc ar ddechrau eu gyrfa, mae Sinfonia Cymru yn creu profiadau cerddorol sy’n torri tir newydd mewn amgylcheddau newydd, i sicrhau bod cerddoriaeth o safon yn hygyrch i bawb yng Nghymru. Roedd derbyn gwahoddiad i fod yn un o dair cerddorfa flaenllaw fydd yn ymddangos ar gyfres newydd sbon Sky Arts, sef Musical Masterpieces, wedi bod yn brofiad anhygoel. Mae’r cerddorion yn edrych ymlaen yn eiddgar i arddangos eu perfformiad i gynulleidfa fyd-eang pan fydd y gyfres yn cychwyn yn hwyrach yn y mis:

Meddai’r Offerynydd Taro Delia Stevens; “Roedd cael ein dewis i fod yn rhan o’r gyfres ar Sky Arts yn brofiad gwefreiddiol i ni fel cerddorion. Mae gweithio gyda’r genhedlaeth nesaf o gerddorion yn golygu mai Sinfonia Cymru yw’r cyfle perffaith i ystyried sut y gallai byd cerddoriaeth glasurol edrych i gerddorion a chynulleidfaoedd wrth symud ymlaen. Mae Sinfonia Cymru yn unigryw, ac yn hynod gefnogol. Maent wedi rhoi nifer o gyfleoedd gwerth chweil i mi raglennu cyngherddau o gwmpas themâu rhyfeddol, boed hynny’n effaith algorithmau ar ein preifatrwydd a’n hunaniaeth, neu roi llwyfan i’r argyfwng hinsawdd drwy gyfrwng cerddoriaeth a pherfformio. Ry’n ni’n edrych ymlaen yn fawr i berfformio i gynulleidfaoedd pell ac agos fel rhan o’r gyfres newydd, gyffrous hon.”

Yn cael ei chyd – gyflwyno gan y cerddor a’r cyflwynydd Myleene Klass ac Errollyn Wallen CBE, cyfansoddwr Prydeinig blaenllaw, mae Musical Masterpieces yn gyfres mewn tair rhan sy’n dangos sut mae tri o’n hoff ddarnau o gerddoriaeth glasurol yn creu eu hud a lledrith eu hunain. Bydd y ddwy hefyd yn datgelu cyfrinachau a thechnegau’r cyfansoddwyr eiconig, a’r straeon y tu ôl i’r gerddoriaeth sy’n ffefrynnau gan bawb. Bydd wynebau cyfarwydd yn cynnwys Alan Titchmarsh, Simon Callow a Nicky Spence hefyd yn cymryd rhan, gan rannu eu hangerdd eu hunain a’u dealltwriaeth o’r campweithiau hyn.

Bydd Sinfonia Cymru yn serennu yn y rhaglen gyntaf ar y 25ain o Fedi, gan gyflwyno perfformiad newydd sbon o’r Four Seasons gan Antonio Vivaldi. Wedi ei ffilmio yn Neuadd Goffa Pontyberem, lleoliad gwledig sy’n dipyn o ffefryn gan Sinfonia Cymru, roedd yn gyfle gwych i Simmy Singh – y feiolinydd creadigol a’r ymgyrchydd cerddorol – archwilio’r Four Seasons fel ag y maent heddiw, ac i sianelu ei gofid am yr hinsawdd, ei gobaith a’i dychymyg ochr yn ochr â Delia Stevens. Mae’n nodi bod y gwylwyr yn sicir o gael profiad anhygowl;

Meddai Simmy Singh; “Mae’r ailddychmygiad hwn o’r Four Seasons yn archwilio’r byd rydyn ni’n byw ynddo heddiw, a’r gwahaniaeth rhyngddo a byd Vivaldi ei hun. Credaf mai hwn oedd y darn delfrydol i fwrw iddo gyda Sinfonia Cymru oherwydd ei natur agored a’r egni trydanol mae’r cerddorion ifanc hyn yn ddod i bob ymarfer a pherfformiad. Roedden nhw’n gadael i mi deimlo’n ddiogel wrth archwilio’r darn clasurol hwn o gerddoriaeth sy’n ei fenthyg ei hun i nifer o ddehongliadau gwahanol.”

Bydd y gyfres yn parhau gyda Carmen gan Bizet yn cael ei pherfformio gan Opera North, a’r Hebrides Overture gan Mendelssohn yn cael ei pherfformio gan y Philharmonia Orchestra.

Dywedodd Myleene Klass: “Rydw i wedi bod wrth fy modd yn gweithio ar y gyfres hon gydag Errollyn. Rwy’n sicr y bydd hyd yn oed y rhai sy’n gyfarwydd â’r darnau hyn yn dod o hyd i rywbeth newydd. Caiff y rhai sy’n dod at gerddoriaeth glasurol am y tro cyntaf eu cyfareddu gan y straeon ac, mewn rhai achosion, yr wyddoniaeth y tu ôl iddyn nhw.”

Dywedodd Errollyn Wallen: “Roedd creu’r gyfres hon yn bleser pur o’r dechrau i’r diwedd. Mwynhaodd Myleene a minnau y daith i ailddarganfod y gweithiau pwysig hyn, ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at rannu ein darganfyddiadau gyda’r gwylwyr.”

Dywedodd Phil Edgar-Jones, Cyfarwyddwr Sky Arts: “Mae Musical Masterpieces yn sioe berffaith gan Sky Arts ar gyfer rhai profiadol a dibrofiad fel ei gilydd – os ydych yn hoff o’r darnau mae Myleene ac Errollyn yn edrych arnynt, byddwch yn siŵr o ddod o hyd i rywbeth newydd a diddorol; os nad ydych yn gyfarwydd â’r gerddoriaeth hyfryd hon, dyma’r cyfle perffaith i chi ddarganfod bydoedd gwirioneddol hudolus.”

Bydd ‘Musical Masterpieces – The Four Seasons with Sinfonia Cymru’ yn cael ei ddarlledu nos Lun 25 Medi am 8yh ar Sky Arts. Gallwch wylio ar Sky Arts am ddim ar sianel 11 ar Freeview a sianel 147 ar Freesat.

Nodiadau i Olygyddion:
I drefnu cyfweliadau, neu i gael delweddau ychwanegol a gwybodaeth, cysylltwch â Heulwen Davies, Ymgynghorydd Marchata Sinfonia Cymru, yn Llais Cymru: heulwen@llaisycmru.wales / 07817 591930.

Y Cynhyrchiad:
Comisiynir Musical Masterpieces gan Phil Edgar-Jones, Cyfarwyddwr Sky Arts, ar gyfer Zai Bennett, MD Cynnwys UK&I. Y Golygydd Comisiynu ar gyfer Sky yw Barbara Lee. Cyd-gynhyrchir Musical Masterpieces gan Full Fat TV a The Space.

Anserlen TX:
Mae pob dyddiad TX a grybwyllir yn amodol ar newid.

TX 1: The Four Seasons, 25 Medi, 8yh
Mae Myleene ac Errollyn yn edrych ar The Four Seasons, consiertos enwog Antonio Vivaldi ar gyfer y ffidil. Yn cyflwyno perfformiad arbennig gan Sinfonia Cymru, cerddorfa o Gymru.

TX 2: Carmen, 2 Hydref, 8yh
Mae Myleene ac Errollyn yn edrych ar Carmen, yr opera boblogaidd ond dadleuol gan Georges Bizet. Yn cyflwyno perfformiadau arbennig gan Opera North, y cwmni opera Prydeinig blaenllaw.

TX 3: The Hebrides Overture, 9 Hydref, 8yh
Mae Myleene ac Errollyn yn edrych ar yr Hebrides Overture gan Felix Mendelssohn, a adwaenir hefyd fel Fingal’s Cave. Yn cyflwyno perfformiad arbennig gan y gerddorfa Brydeinig flaenllaw, y Philharmonia Orchestra.

Cefnogwch Sinfonia Cymru

Cyfrannwch rodd nawr i roi’r dechrau gorau posibl i gerddorion ifanc yn eu gyrfaoedd proffesiynol.

Darllen rhagor