Rydym yn defnyddio cwcis o wasanaethau trydydd parti i'n helpu ni i wella ein gwefan.
Newyddion

Yr anhygoel Max Baillie yn ymuno â Sinfonia Cymru ym mis Mehefin!

Datganiad i’r Wasg: 23.5.23
Cyhoeddwyd Dydd Mawrth 23 Mai 2023

“Max Baillie’s gutsy viola playing is a delight.”
– Geoff Brown, The Times

“Gobsmacked! Incredible, Sinfonia Cymru. Can’t get my head around the amount of talent.”
– Aelod o’r Gynulleidfa, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd

Yn adnabyddus fel un o’r cerddorion mwyaf amryddawn yn y DU, bydd Max Baillie – y chwaraewr ffidil a fiola arloesol – yn ymuno â 13 o offerynwyr llinynnol anhygoel Sinfonia Cymru, i gyflwyno profiad gwefreiddiol o gerddoriaeth yng Nghaerdydd, Gregynog a Theatr Clwyd ym mis Mehefin.

Mae galw mawr am Max Baillie o amgylch y byd. Yn gweithio mewn sawl genre, o’r clasurol i gydweithrediadau gyda dawnswyr ac offer electronig, mae Max wedi perfformio ochr yn ochr â’r gitarydd John Williams, y seren pop Tinie Tempah, ac wedi ymddangos ar lwyfannau o’r Almaen i Glastonbury! Wedi perfformio yn y Swistir, yr Almaen, Sweden a Norwy yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae Max yn edrych ymlaen yn gyffrous at ymuno â Sinfonia Cymru yng Nghymru:

“Dwi’n methu aros i gael gweithio gyda holl gerddorion gwych yr ensemble dynamig hwn yng Nghymru; nhw yw dyfodol cerddoriaeth glasurol fyw. Profiad prin a heriol bob amser yw llywio llong a chanddi griw o’r fath – ifanc, ymroddedig, brwdfrydig ac ysbrydoledig.”

Dan y teitl ‘A Folk Odyssey’, mae Baillie wedi curadu yr hyn na ellir ond ei disgrifio fel taith gerddorol wefreiddiol ar gyfer y gynulleidfa. Gallwch ddisgwyl cyfuniad o draddodiadau gwerin hen a newydd o wahanol rannau o’r byd, yn cynnwys medli o alawon gwerin o Sgandinafia, yr Almaen a Chymru, gyda threfniannau o waith Max ei hun a Simmy Singh, Cydymaith Creadigol Sinfonia Cymru. Bydd fersiwn unigryw o 5ed Pedwarawd Haydn ar gyfer ensemble llinynnol, a bydd pob cyngerdd yn dod i uchafbwynt gyda medli pryfoclyd o gorâl Bach, rhannau o’r Holberg Suite gan Grieg, a bluegrass, gyda threfniant Simmy Singh o alaw The Punch Brothers, sef Flippen (‘the Flip’). Mae yna rywbeth i bawb!

“Mae fy rhaglen gyda Sinfonia Cymru yn ymgorffori rhywbeth a aned o’r pridd, ac eto mae ynddi hefyd gerddoriaeth hynod ysbrydol – fel symudiad araf yr hynod boblogaidd Holberg Suite, sy’n ogoneddus.”

Yn falch o gael eu hadnabod fel cerddorion sy’n herio canfyddiad y gynulleidfa o gerddoriaeth gerddorfaol, a sicrhau bod pawb yng Nghymru’n cael mynediad at gerddoriaeth o safon uchel, mae Sinfonia Cymru ar hyn o bryd yn teithio i 22 o ganolfannau lleol ledled Cymru. Mae’r daith Mainly Village Halls yn cynnig cyngherddau’n rhad ac am ddim i gynulleidfaoedd o bob oedran mewn lleoliadau yng nghalon eu cymunedau. Yn griw o offerynwyr egnïol sydd byth yn aros yn eu hunfan, maen nhw’n edrych ymlaen yn eiddgar at gydweithio gyda Max Baillie ym mis Mehefin.

Meddai Caroline Tress, Prif Weithredwr Sinfonia Cymru:

“Ry’n ni’n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda Max a’i baru gyda’n ensemble llinynnol gwych. Ry’n ni bob amser yn gwthio’r ffiniau i wneud pethau newydd, a pherfformio gyda’r cerddorion mwyaf cyffrous, gan sicrhau bod pobl yng Nghymru’n gallu cael profiad o gyngherddau egnïol o safon byd-eang. Mae Max yn gerddor gwirioneddol arloesol sy’n gweithio’n rhyngwladol fel unawdydd a chyfarwyddwr gydag ensemblau mawr, yn ogystal â gyda grwpiau gwerin a chlasurol llai o faint. Mae ei angerdd dros gyfuno gwahanol arddulliau cerddorol o bob cwr o’r byd, yn hen a newydd, yn sicr o arwain at rywbeth cwbl arbennig ar gyfer ein taith ym mis Mehefin 2023!”

Gallwch fwynhau ‘A Folk Odyssey’ yn y lleoliadau canlynol:

– Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd ddydd Gwener 23 Mehefin
– Neuadd Gregynog ddydd Sadwrn 24 Mehefin
– The Mix @ Theatr Clwyd ddydd Sul 25 Mehefin.

Mae’r tocynnau ar werth yn awr sinfonia.cymru/cy/whats-on

Am ragor o wybodaeth, cyfweliadau, lluniau, neu i drefnu adolygiadau, cysylltwch â Heulwen Davies, Ymgynghorydd Marchnata Sinfonia Cymru, ar heulwen@llaiscymru.wales/ 07817 591930.

Cefnogwch Sinfonia Cymru

Cyfrannwch rodd nawr i roi’r dechrau gorau posibl i gerddorion ifanc yn eu gyrfaoedd proffesiynol.

Darllen rhagor