Rydym yn defnyddio cwcis o wasanaethau trydydd parti i'n helpu ni i wella ein gwefan.

A Folk Odyssey

Dydd Gwener 23 Mehefin 2023 - Dydd Sul 25 Mehefin 2023

Cyfarwyddwr: Max Baillie

Gadewch i offerynwyr llinynnol anhygoel Sinfonia Cymru fynd â chi ar daith gerddorol hudolus yn y rhaglen gyffrous hon, wedi’i churadu gan Max Baillie, y fiolinydd dawnus a’r cyfarwyddwr gwadd.

Gallwch ddisgwyl taith gyffrous sy’n cwmpasu traddodiadau gwerin hen a newydd o Gymru ac Ewrop. O gerddoriaeth stormus, gyfareddol Pedwarawd Rhif 5 gan Haydn, sy’n gyforiog o themâu a gyda blas Hwngaraidd, i gasgliad o gerddoriaeth werin o Ddwyrain Ewrop a’r gwledydd Nordig, a’n fersiwn unigryw ni ein hunain o alawon gwerin poblogaidd o Gymru, wedi eu trefnu’n arbennig ar eich cyfer chi gan Simmy Singh, y fiolinydd rhyfeddol o Gymru. Bydd y cyngerdd yn dod i ben gyda medli pryfoclyd o gorâl Bach, yr Holberg Suite gan Grieg, a threfniant epig Simmy ei hun o Flippen gan y Punch Brothers.

Fel bob amser, bydd Sinfonia Cymru’n profi bod cerddoriaeth gerddorfaol yn rhywbeth i bawb, ac yn eich gadael chi yn awchu i glywed mwy!

Max Baillie Bio CYMRAEG
Max Baillie Bio ENGLISH

Cefnogwch Sinfonia Cymru

Cyfrannwch rodd nawr i roi’r dechrau gorau posibl i gerddorion ifanc yn eu gyrfaoedd proffesiynol.

Darllen rhagor