Rydym yn defnyddio cwcis o wasanaethau trydydd parti i'n helpu ni i wella ein gwefan.
Newyddion

Lucienne Renaudin Vary a Sinfonia Cymru’n dod ag asbri strydoedd Ffrainc i Gymru y mis Tachwedd hwn

(English) Sinfonia Cymru Press Release: 27.09.22
Cyhoeddwyd Dydd Mawrth 27 Medi 2022

Datganiad i’r Wasg Sinfonia Cymru: 27.09.22

Mae’r Ffrances Lucienne Renaudin Vary, a ddisgrifiwyd gan radio Classical KDFC fel “trumpet sensation”, yn dipyn o seren! A hithau’n artist sydd wedi recordio gyda chwmni Warner, mae hi hefyd wedi ennill gwobrau pwysig, yn cynnwys ennill y categori ‘Révélation’ o’r ‘Victories de la Musique Classique’. Mae’n ymddangos yn rheolaidd ar y sgrin fawr, ac wedi teithio’r byd gan syfrdanu cynulleidfaoedd a chyd-gerddorion â’i thalent anhygoel. Ac ar ben hynny i gyd, dyw hi ond 23 mlwydd oed! Mae Sinfonia Cymru’n edrych ymlaen yn eiddgar at berfformio gyda Lucienne yma yng Nghymru yr hydref hwn:

“Mae’r prosiect yma wedi bod ar y gweill ers rhyw dair blynedd bellach, ac o’r diwedd rydym yn falch o allu dod â Lucienne i Gymru. Bu’n brofiad cyffrous i gael trafod syniadau gydag artist sy’n cynnig y fath ystod eang o repertoire ac arddulliau; does dim arweinydd, felly bydd hwn yn gydweithrediad agos iawn rhwng Lucienne a’n cerddorion ni. Bydd yr holl gerddorion ifanc hyn yn dod ag egni arbennig, a’u hud a lledrith eu hunain, i bob un o’r pedwar perfformiad. Mae hwn yn gyfle gwych i gynulleidfaoedd Cymreig weld seren y dyfodol – ac rydyn ni’n edrych ymlaen yn eiddgar at ddechrau’r daith!”
– Tammy Daly, Rheolwr Cyffredinol, Sinfonia Cymru.

Dyma fydd y tro cyntaf i Lucienne ymweld â Chymru, ac mae hi’n edrych ymlaen yn frwdfrydig at ei hymweliad a’r cyfle i gydweithio gyda Sinfonia Cymru:

“Rydw i’n cyfri’r dyddiau i gael perfformio gyda cherddorion Sinfonia Cymru. Mae’n gyfle gwych i allu gweithio gyda phobl ifanc eraill ym myd cerddoriaeth glasurol. Bydd eu cyfarwyddo nhw’n brofiad newydd iawn i minnau hefyd! Rydw i’n edrych ymlaen yn llawn cyffro at gael ymweld â Chymru. Mae gen i ryw ddelweddau yn fy meddwl o sut le yw e, ond bydd gweld y tirluniau godidog hynny yn ne a gogledd Cymru â’m llygaid fy hun yn brofiad bythgofiadwy. Rydw i’n edrych ymlaen hefyd at flasu’r bwydydd Cymreig!”

Yn ystod y daith, mae Lucienne a Sinfonia Cymru’n gobeithio dod ag asbri Ffrengig i Gymru, gyda chyfuniad o gerddoriaeth gyffrous ac eclectig wedi’i hysbrydoli gan strydoedd Ffrainc, a pheth ohoni hefyd o Efrog Newydd, fel yr esbonia Lucienne:

“Mae’r cerddorion a minnau’n hoffi gwrando ar, a chwarae, darnau aml-genre yn ein cyngherddau – mae’n hwyl ac mae’r gynulleidfa’n mwynhau hefyd. Bydd darnau clasurol, fel Concerto Hummel i’r Trwmped, a hefyd rhai darnau chwareus sy’n adlewyrchu’r byd jazz ar strydoedd Ffrainc ac Efrog Newydd. Mae’r trefniannau wedi cael eu hysgrifennu’n arbennig i mi gan Bill Elliott, sy’n gerddor Americanaidd anhygoel – maen nhw wedi eu llunio’n arbennig ar gyfer y trwmped a cherddorfa. Bydd e’n hwyl!”

Alis Huws o ganolbarth Cymru yw’r Delynores Frenhinol Swyddogol, ac yn ddiweddar mae hi wedi ymuno â ni yn Sinfonia Cymru. Roedd hi’n rhan o’n cydweithrediad a thaith lwyddiannus, ‘Dwr, Tir, Aer’, gyda’r bardd a’r cerddor Casi Wyn. Bydd Alis yn sgwrsio’n fyw gyda Lucienne ar Dudalen Instagram Sinfonia Cymru ddydd Mercher 5ed o Hydref am 8 o’r gloch, cyn ymuno â’r ‘trumpet sensation’ ar daith ym mis Tachwedd:

“Dwi’n teimlo’n gyffrous iawn am gael gweithio gyda Lucienne ar y prosiect hwn – mae’n braf cael repertoire amrywiol sy’n cynnig rhywbeth i bawb. Mae gan Lucienne egni anhygoel, ac rydyn ni i gyd yn edrych ymlaen at roi ei phrofiad cyntaf o Gymru iddi hi!”

Gallwch weld y Daith ‘Trumpet Sensation’ yn Theatr Glan yr Afon, Casnewydd, ddydd Iau 17eg o Dachwedd, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd ddydd Gwener 18fed o Dachwedd, Ysgol Gynradd Pontyberem ddydd Sadwrn 19eg ac yn Neuadd William Aston, Wrecsam ddydd Sul 20fed o Dachwedd. Mae’r holl berfformiadau’n addas ar gyfer pob oedran; mae tocynnau ar werth ar hyn o bryd, yn amrywio o £3 i £19.50. Ewch i www.sinfonia.cymru am fanylion llawn.

Peidiwch ag anghofio gwrando ar gyfweliad Alis gyda Lucienne yn fyw ar Instagram @sinfoniacymru ddydd Mercher 5ed o Hydref am 8 o’r gloch; bydd Alis yn cael cyfle i ddod i adnabod y dalent y tu ôl i’r trwmped – ac yn dysgu rhywfaint o Gymraeg i Lucienne hefyd!

Am ragor o wybodaeth, lluniau, neu i drefnu cyfweliadau yn Gymraeg neu Saesneg, cysylltwch â Heulwen Davies, Ymgynghorydd Marchnata Sinfonia Cymru, yn Llais Cymru ar heulwen@llaiscymru.wales / 07817 591930.

Cefnogwch Sinfonia Cymru

Cyfrannwch rodd nawr i roi’r dechrau gorau posibl i gerddorion ifanc yn eu gyrfaoedd proffesiynol.

Darllen rhagor