Sinfonia Cymru a ffidil Russel Crowe yn archwilio ein hangen i ymgysylltu â natur a’r awyr agored!’
Cyhoeddwyd Dydd Llun 28 Mawrth 2022
Sinfonia Cymru a Ffidil Russell Crowe ar y ffordd i Gaerdydd
Mae Sinfonia Cymru yn gyffrous i ddechrau rhaglen fyw 2022 ar Ddydd Sul y 3ydd o Ebrill gyda ‘Songs for the Earth’, y cyntaf o dri gig ‘Curate’ gan Sinfonia Cymru, yng Nghanolfan Chapter, Caerdydd.
Bridget O’ Donnell chwaraewr ffidil o Awstralia sydd wedi curadu Songs for the Earth. Bellach yn byw yn Llundain, dyma ei blwyddyn gyntaf gyda Sinfonia Cymru. Dechreuodd chwarae’r ffidil pan roedd hi’n 5 oed ac yn 15 oed aeth ymlaen i astudio mewn ysgol uwchradd oedd yn arbenigo mewn cerddoriaeth, cyn mynd i weithio gyda Cherddorfa Symffoni Sydney ac ymlaen i astudio ei MA yn yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain. Mae’r ffidil y bydd hi’n chwarae yng Nghaerdydd yn un fyd enwog!
“Cafodd y ffidil arbennig hon ei chwarae gan yr actor Russell Crowe yn ei ffilm enwog ‘Master and Commander’ sy’n andros o cwl! Helpodd Russell fi i gael y ffidil arbennig hon ac roedd yn awyddus i sicrhau bod hi’n cael ei defnyddio. Dwi’n edrych ymlaen i’w chwarae hi yng Nghaerdydd!”