Rydym yn defnyddio cwcis o wasanaethau trydydd parti i'n helpu ni i wella ein gwefan.
Newyddion

Diolch yn fawr, Caroline

Cyhoeddwyd Dydd Mercher 18 Awst 2021

Bydd lansio’r fideos Curate a Dewisiadau Chwaraewyr yn ein gŵyl Penwythnos Haf yn nodi diwedd cyfnod Caroline Pether fel Arweinydd Sinfonia Cymru; ei rhaglen Curate, sef Spiritual Borderlands, yw ei phrosiect olaf gyda ni fel Arweinydd. Mae’n drist bod y pandemig wedi amharu ar ei blwyddyn olaf o berfformiadau byw – roeddwn yn edrych ymlaen yn fawr at raglen hunangyfeiriedig a fyddai wedi cynnwys Variations on a theme of Frank Bridge gan Britten, ynghyd â choncerto gan Haydn a Palladio gan Karl Jenkins.

Ond mae cymaint i’w ddathlu ac edrych yn ôl arno. Yn ddiamheuaeth, mae Caroline yn gerddor gwych – yn dechnegol ac yn gerddorol – ac mae’r rhaglenni mae hi’n eu dewis a’i gwaith paratoi ar eu cyfer yn dangos ôl meddwl. Byddaf yn cofio’r wedd newydd a roddodd i Four Seasons Vivaldi, y gwyddwn ei fod wedi gwneud argraff ar aelodau’r gynulleidfa, a hefyd ei gwaith manwl ar y cyngerdd Richard Strauss diweddar a gynhaliom o dan gyfyngiadau ar gyfer myfyrwyr yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, a oedd yn cynnwys y fersiwn seithawd o Metamorphosen ochr yn ochr â Capriccio. Cofiaf hefyd ba mor ddymunol oedd hi wrth gael ei holi gan ddisgyblion cynradd ifanc o Ysgol Maendy, Casnewydd cyn un o’n cyngherddau siambr rheolaidd yng Nglan yr Afon.

Ochr yn ochr â’i gwaith gyda Sinfonia Cymru, ei hymrwymiadau addysgu yn Conservatoire Birmingham ac amryw brosiect cerddoriaeth siambr, mae Caroline hefyd yn aelod o Camerata Manceinion ac fe’i penodwyd yn arweinydd arnynt yn yr hydref y llynedd. Mae’n siŵr gennyf y bydd hi a’r gerddorfa’n ffynnu yn y rôl.

Mae Sinfonia Cymru yn ffodus iawn o fod wedi cael rhywun o safon Caroline yn Arweinydd am yr ychydig flynyddoedd diwethaf, nid yn unig oherwydd ei phroffesiynoldeb llwyr, ond hefyd gan ei bod mor annwyl. Pleser o’r mwyaf fu gweithio gyda hi.

Dymunwn bob llwyddiant iddi â’i gyrfa yn y dyfodol.

Cefnogwch Sinfonia Cymru

Cyfrannwch rodd nawr i roi’r dechrau gorau posibl i gerddorion ifanc yn eu gyrfaoedd proffesiynol.

Darllen rhagor