Dewisiadau Chwaraewyr – Solo No. 5, John Stanley
Cyhoeddwyd Dydd Llun 23 Awst 2021Roedden ni eisiau creu mwy o fideos cerddoriaeth i chi a hefyd rhoi cyfle i’n chwaraewyr chwythbrennau ddisgleirio. Felly, fe ofynnon ni iddyn nhw ddewis eu hoff ddarnau o’r repertoire chwythbrennau. Mae’r canlyniad yn ddetholiad o unawdau, deuawdau a thriawdau byr sy’n rhychwantu amrywiaeth o gyfansoddwyr ac arddulliau cerddorol.
Aeth John Stanley bron yn gwbl ddall pan oedd yn ddwyflwydd oed o ganlyniad i ddamwain yn ei gartref. Er gwaethaf hyn, cafodd yrfa gerddorol neilltuol. Pan oedd yn 11 oed roedd yn ennill cyflog (£20 y flwyddyn) fel organydd, ac ef oedd yr unigolyn ieuengaf, yn 17 oed, i gael gradd B.Mus o Rydychen. Daeth yn organydd Eglwys Temple yn ei ugeiniau cynnar ac ymwelodd Handel â’r eglwys yn rheolaidd i wrando arno.
Rhaglen
- Mina Middleton Flute
- Hamish Brown Piano
- John Stanley Solo No. 5 (from 8 solos) - Adagio & Allegro