Rydym yn defnyddio cwcis o wasanaethau trydydd parti i'n helpu ni i wella ein gwefan.
Ein cerddorion

Roedd perfformio Metamorphosen gan Strauss gerbron cynulleidfa go iawn yn yr hydref y flwyddyn honno yn wirioneddol wyrthiol.

Cyhoeddwyd Dydd Iau 27 Mai 2021

Deni Tao, Sielo

Pryd ddechreuest ti chwarae’r sielo? Fe ddechreues i gael gwersi sielo pan oeddwn yn chwe blwydd oed gyda fy ffrind gorau yn yr ysgol. Fe rannon ni wersi am y flwyddyn gyntaf ac mae gan ein rhieni luniau hyfryd o’r ddau ohonon ni’n perfformio deuawdau ym mlwyddyn 2!

Wyt ti’n chwarae unrhyw offerynnau eraill? Mae fy mam yn athrawes biano felly roeddwn i’n ffodus o gael gwersi piano ers i mi fod yn bedair blwydd oed. Mewn gwirionedd, fe astudies i’r sielo a’r piano tan i mi adael yr ysgol, ac rwy’n falch ’mod i wedi dal ati oherwydd bod addysgu’r piano wedi fy helpu trwy’r pandemig.

Ble astudiest ti? Fe astudies i gyda Melissa Phelps ar gyfer fy ngraddau israddedig ac ôl-raddedig yn y Coleg Brenhinol Cerdd yn Llundain.

Pryd wnest ti chwarae gyntaf gyda Sinfonia Cymru? Ar ôl cael clyweliad yn 2018, fy mhrosiect cyntaf y flwyddyn honno oedd cyngerdd Curate yn cynnwys cerddoriaeth siambr clarinét. Cafodd ei arwain gan fy mhartner, Ben Mellefont, ac fe chwaraeon ni repertoire gwych gan gynnwys Pumawd Clarinét Hindemith a Phedwarawd Penderecki ar gyfer Clarinét a Thriawd Llinynnau. Roeddwn i mor hapus i chwarae gyda Sinfonia Cymru o’r diwedd oherwydd bod Ben wedi bod yn aelod ers sawl blwyddyn a bob amser yn cael amser da ar daith!

Beth wyt ti’n ei hoffi am weithio gyda Sinfonia Cymru? Un o’m hoff bethau yw sut mae pawb yn cael ei annog i gyfrannu at y drafodaeth gerddorol. Mae’r holl safbwyntiau’n cael eu gwerthfawrogi mewn lleoliadau siambr a cherddorfaol, sy’n braf iawn.

Beth yw dy hoff atgof o Sinfonia Cymru? Roedd 2020 yn flwyddyn anodd i bob cerddor, yn amlwg, felly roedd perfformio Metamorphosen gan Strauss gerbron cynulleidfa go iawn yn yr hydref y flwyddyn honno yn wirioneddol wyrthiol. Mae’n un o’m hoff ddarnau erioed ac roedd y cyngerdd yn emosiynol iawn i ni i gyd. Roedd dagrau yn fy llygaid wrth i ni ymgrymu ar y diwedd! Uchafbwynt 2019 oedd y daith frysiog i berfformio Tosca yn Abu Dhabi. Mae’n swrrealaidd meddwl am hynny yn y sefyllfa sydd ohoni nawr.

Beth yw dy hoff atgof cerddorol arall? Un peth sy’n sefyll allan yn fy nghof yw fy Mhrom BBC proffesiynol cyntaf pan chwaraeon ni ddarn o FirebirdStravinsky yn rhan o gyngerdd i blant. Wrth i ni chwarae, ymddangosodd pyped rhyfeddol siâp ffenics o gefn y neuadd ac fe’i hedfanwyd o amgylch yr arena. Roedd yn anferth ac yn hollol gyfareddol – roedd yn amhosibl cadw fy llygaid ar y gerddoriaeth!

Beth wyt ti’n ei hoffi fwyaf am fod yn gerddor proffesiynol? Mae rhannu llwyfan gyda ffrindiau da yn deimlad arbennig ac yn rhywbeth na fydda’ i byth yn ei gymryd yn ganiataol. Rydw i hefyd yn ffodus o gael gyrfa amrywiol ar hyn o bryd, sy’n amrywio o chwarae cerddoriaeth siambr gyfoes i waith sesiwn ar gyfer ffilmiau, a dwi’n mwynhau’r cyfan.

Pan nad wyt ti’n chwarae gyda Sinfonia Cymru, pa gerddorfeydd, ensembles neu brosiectau eraill wyt ti’n ymwneud â nhw? Rydw i’n aelod o’r grŵp cyfoes Explore Ensemble ac, yn ffodus, fe lwyddon ni i aros yn brysur yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Fe recordion ni gerddoriaeth gan James Weeks ac Oliver Leith gyda label Another Timbre, a bydd y ddau gryno ddisg ar gael yn ddiweddarach eleni. Rydw i hefyd yn aelod o grŵp newydd ei ffurfio o’r enw Her Ensemble, sef y gerddorfa linynnol fenywaidd gyntaf yn y Deyrnas Unedig. Rydyn ni’n sillafu’r gair Saesneg ‘woman’ fel ‘womxn’ er mwyn cynnwys cerddorion trawsryweddol ac anneuaidd ac rydyn ni’n perfformio cerddoriaeth nad yw’n cael ei gwerthfawrogi digon gan gyfansoddwyr ‘womxn’. Pan fydd y pandemig drosodd, rwy’n gobeithio y galla’ i ailgydio yn fy ngwaith llawrydd gyda Cherddorfa Symffoni’r BBC a Cherddorfa Ffilharmonig Frenhinol Lerpwl, a dechrau fy nghyfnod treialu o’r diwedd gyda Cherddorfa Genedlaethol Frenhinol yr Alban y ces i glyweliad ar ei chyfer ym mis Chwefror 2020!

Beth yw dy dri hoff ddarn o gerddoriaeth, a pham? Mae gormod o bedwarawdau llinynnol rhyfeddol i ddewis o’u plith, ond Pedwarawd Llinynnol Rhif 15 Schubert yw’r un y mae pawb yn tueddu i wrando arno. Four Last Songs gan Strauss yw un o’r darnau harddaf a gyfansoddwyd erioed ac mae’n fy syfrdanu bob tro dwi’n ei glywed. Mae fy rhestr chwarae Spotify yn dangos i mi fod gen i obsesiwn ar hyn o bryd â gwrando ar y gantores jazz a’r chwaraewr bas Esperanza Spalding – dwi’n ei hedmygu hi cymaint!

Dyweda rywbeth diddorol amdanat I ni. Dwi wrth fy modd yn pobi ac mae gen i ffrwd Instagram benodol ar gyfer fy nghreadigaethau. Dilynwch fi @denibakes! Fe ges i fy nhemtio i weithio mewn popty yn ystod y pandemig, ond un o’m breuddwydion yw mynd ar y sioe Great British Bake Off, a chewch chi ddim ymgeisio os ydych chi erioed wedi gweithio’n broffesiynol, gwaetha’r modd.

Cefnogwch Sinfonia Cymru

Cyfrannwch rodd nawr i roi’r dechrau gorau posibl i gerddorion ifanc yn eu gyrfaoedd proffesiynol.

Darllen rhagor