Rydym yn defnyddio cwcis o wasanaethau trydydd parti i'n helpu ni i wella ein gwefan.
Ein cerddorion

Fy hoff beth am weithio gyda Sinfonia Cymru yw’r ffaith bod yr amgylchedd yn teimlo mor gydweithredol

Cyhoeddwyd Dydd Mawrth 5 Ionawr 2021

Carys Evans, Utgorn

Pryd ddechreuest ti chwarae’r utgorn? Fe ddechreues i chwarae’r utgorn pan oeddwn yn 9 oed, cyn mynd i Ysgol Gerddoriaeth Chetham yn 10! Roeddwn i wedi chwarae’r trwmped am ddwy flynedd eisoes, ond yn ystod fy nghlyweliad ar gyfer Chetham fe ges i fy nghynghori i ddewis un neu’r llall. A dwi ddim yn difaru o gwbl!

Wyt ti’n chwarae unrhyw offerynnau eraill? Fe astudies i’r piano’n eithaf dwys fel ail astudiaeth am 8 mlynedd tra bues i yn Chetham, ond dydw i ddim wedi cael unrhyw wersi ers hynny felly dwi dim yn siŵr y byddwn i’n ddigon da i chwarae’n gyhoeddus.

Ble astudiest ti? Fe astudies i yn yr Academi Frenhinol Cerddoriaeth, gan wneud 4 blynedd fel myfyriwr israddedig.

Pryd wnest ti chwarae gyntaf gyda Sinfonia Cymru? Fe ddechreues i chwarae gyda Sinfonia Cymru yn 2015 ar ôl clyweliad a gynhaliwyd yn yr Academi Frenhinol! Rwy’n dal i’w gofio’n glir. Roedd am 9 y bore ac roedd rhaid i mi ddefnyddio’r geg HELPA FI mewn argyfwng oherwydd bod y darnau mor uchel a dydw i’n sicr ddim ar fy ngorau am 9am. Ond roedd popeth yn iawn, diolch i’r drefn!

Beth wyt ti’n ei hoffi am weithio gyda Sinfonia Cymru? Heb os, fy hoff beth am weithio gyda Sinfonia Cymru yw’r ffaith bod yr amgylchedd yn teimlo mor gydweithredol. Does dim rhaid i ni gytuno ar un llais a’i ddilyn – mae’n teimlo fel bod pob chwaraewr yr un mor ddilys ac yn cael eu parchu llawn cymaint â’i gilydd. Dwi hefyd yn hoffi pa mor amrywiol ydyw. Mae pob prosiect yn unigryw ac mae hynny’n rhoi llawer o foddhad i ni fel chwaraewyr, yn ogystal ag aelodau rheolaidd o’r gynulleidfa.

Beth yw dy hoff atgof o Sinfonia Cymru? Mae gen i ddau! Mae’n amhosibl i mi ddewis oherwydd eu bod nhw’n HOLLOL wahanol. Y cyntaf oedd y sesiynau recordio/taith lansio ar gyfer ein halbwm Birdsong/Cân yr Adar gyda Gwilym Simcock a Kizzy Crawford. Mae cerddoriaeth jazz yn agos iawn i’m calon ac roeddwn i wrth fy modd yn cael cyfle i archwilio’r ochr honno o fewn amgylchedd cerddoriaeth siambr fwy clasurol. Roedd y grŵp o gerddorion mor hyfryd, ac roeddwn i’n dwlu gweithio gyda chwaraewyr a ffrindiau mor dda.

Yr ail yw ein taith i Abu Dhabi i berfformio Tosca yn yr Ŵyl yno. Rwy’n DWLU ar opera, a Puccini yn arbennig. Ar ôl blynyddoedd o’i chwarae mewn darnau clyweliad, roedd yn wych cael ticio Tosca oddi ar y rhestr!

Beth yw dy hoff atgof cerddorol arall? Fel y soniais yn gynharach, mae cerddoriaeth jazz yn agos i’m calon, felly byddai’n rhaid i mi ddweud bod rhai o’m hatgofion hapusaf yn ymwneud â pherfformio’r gerddoriaeth honno. Mae gweithio gyda Quincy Jones y llynedd yn sefyll allan, ond teithiais hefyd gyda Hans Zimmer ar ei sioe ‘Hans Zimmer Live’ a oedd yn brofiad mor wych. Mae’n anodd dewis rhwng eiconau! Rwy’n ddiolchgar iawn o fod wedi gweithio gyda cherddorion mor rhyfeddol; roedd y ddau brofiad fel breuddwyd.

Beth wyt ti’n ei hoffi fwyaf am fod yn gerddor proffesiynol? Rwy’n dwlu ar y ffaith nad yw’n teimlo fel gwaith. Dwi’n dal i fethu credu ’mod i’n cael ennill bywoliaeth fel hyn, mae’n wallgof! Rwy’n credu ei bod yn eithaf anghyffredin ac arbennig i allu mynd i’r gwaith a gwneud yr hyn ry’ch chi’n dwlu arno a bod yng nghwmni’r bobl orau drwy’r dydd (a chael tâl amdano?!) Dwi hefyd yn hoffi’r ffaith bod pob dydd mor wahanol. Rwy’n dwlu ar y ffaith y bydda’ i’n perfformio mewn sioe hiphop un noson ac yn ymarfer Strauss y bore nesaf. Dyw e’ byth yn ddiflas!

Pan nad wyt ti’n chwarae gyda Sinfonia Cymru, pa gerddorfeydd, ensembles neu brosiectau eraill wyt ti’n ymwneud â nhw? Rwy’n gweithio ar The Lion King ar hyn o bryd, felly rydyn ni’n gwneud 8 sioe yr wythnos. Rwy’n lwcus iawn i allu cymryd amser i ffwrdd i weithio ar brosiectau eraill ar yr un pryd, ac mae hynny’n golygu bod chwarae Circle of Life yn aros yn ffres hefyd! Y dyddiau hyn, rwy’n tueddu i weithio mwy ar lwybrau cerddorol masnachol/anghlasurol, felly rwy’n chwarae gyda grŵp sydd â chyfnod preswyl mewn clwb nos, yn dirprwyo mewn amryw sioeau a hefyd yn gwneud rhai sesiynau recordio sy’n rhoi llawer o bleser i mi. Mae bod ag amrediad mor eang yn gwneud i mi wir werthfawrogi chwarae mewn lleoliadau siambr/cerddorfaol mwy clasurol – cerddoriaeth gerddorfaol glasurol fydd fy nghariad cyntaf bob amser!

Beth yw dy dri hoff ddarn o gerddoriaeth, a pham?

  • Spartacus: Adagio of Spartacus and Phrygia gan Khachaturian – mae’r darn hwn MOR hyfryd, mae’n rhoi croen gŵydd i mi bob tro dwi’n gwrando arno (llawer).
  • Love of My Life gan Nils Landgren – mae gen i obsesiwn â Nils Landgren, dwi’n credu ei fod mor wych. Os nad ydych chi wedi clywed amdano, gwrandewch arno! Rwy’n dwlu ar y ffordd mae’n chwarae trombôn ar y gân hon, ond mae ei lais yn rhyfeddol hefyd. Dwi’n credu bod ganddo arddull unigryw sy’n wahanol i unrhyw beth arall dwi wedi’i glywed.
  • Blue Room gan Chet Baker – rwy’n dwlu ar unrhyw beth gan Chet Baker. Petai rhaid i mi ddewis un artist yn unig i wrando arno am weddill fy oes, byddwn i’n ei ddewis e’!

Dyweda rywbeth diddorol amdanat i ni. Rwy’n ddylunydd mewnol cymwysedig! Rwy’n dwlu ar ddylunio mewnol a bob amser wedi dweud petawn i ddim yn gallu chwarae cerddoriaeth mwyach am ryw reswm, dyna’r llwybr y byddwn i’n ei ddilyn. Roedd gen i ychydig o amser sbâr ar daith am rai blynyddoedd (dydw i ddim yn dechrau gweithio tan 7.30pm y rhan fwyaf o’r amser!), felly fe benderfynes i achub y blaen ac fe wnes i gwrs prifysgol agored gyda’r Academi Ddylunio Genedlaethol. Dwi wedi bod wrthi’n adnewyddu fy mwthyn ers blwyddyn ac yn gwneud defnydd da ohono, gobeithio!

Cefnogwch Sinfonia Cymru

Cyfrannwch rodd nawr i roi’r dechrau gorau posibl i gerddorion ifanc yn eu gyrfaoedd proffesiynol.

Darllen rhagor