Rydym yn defnyddio cwcis o wasanaethau trydydd parti i'n helpu ni i wella ein gwefan.
Ein cerddorion

Dyw e ddim fel swydd mewn gwirionedd, oherwydd mod i’n ei charu cymaint!

Cyhoeddwyd Dydd Sadwrn 11 Gorffennaf 2020

Pryd ddechreuaist di chwarae dy offeryn?

Codais y feiolin am y tro cyntaf ychydig cyn fy mhen-blwydd yn dair oed – roedd fy mrodyr hŷn eisoes yn chwarae cerddoriaeth, ac roeddwn i eisiau ymuno, am wn i!

Wyt ti’n chwarae offeryn arall?

Chwaraeais y piano cymaint â’r feiolin nes i mi gyrraedd tua 14 oed, ond doeddwn i ddim yn dda iawn. Wrth edrych yn ôl, dwi’n falch y daliais i ati am gyfnod. Dwi’n sicr yn gwerthfawrogi gallu eistedd wrth biano nawr a chwarae ambell dôn!

Ble astudiaist di?

Fe astudiais i yn y Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain.

Pryd chwaraeaist di gyntaf gyda Sinfonia Cymru?

Fy mhrofiad cyntaf o Sinfonia Cymru oedd Cyngerdd Goffa Hanner Canmlwyddiant Aberfan, yn ôl yn 2016. Roedd yn gyngerdd arbennig iawn, ac roeddwn i’n falch o fod yn rhan o achlysur mor bwysig.

Beth wyt ti’n ei hoffi am weithio gyda Sinfonia Cymru?

Heb os, dyma un o’r amgylcheddau mwyaf cyfeillgar i weithio ynddo, o ymarfer yr holl ffordd i lwyfan y cyngerdd. Mae’n heintus, felly dwi bob amser yn edrych ymlaen at weithio gyda SC.

Beth yw dy hoff atgof o Sinfonia Cymru?

Y llynedd, aeth y gerddorfa i Abu Dhabi ar gyfer cyngerdd unigryw, lle y chwaraeon ni Tosca gan Puccini. Roedd chwarae Tosca yn freuddwyd i mi; dyna un o’m hoff operâu. Ar ben hynny, roeddwn i’n gallu archwilio Abu Dhabi gyda chydweithwyr a ffrindiau arbennig…roedd yn wythnos wych!

Beth yw dy hoff atgof cerddorol arall?

Wn i ddim! Mae cynifer o bethau da i edrych nôl arnyn nhw. Roedd un o’m profiadau cerddorol rhyfeddaf yn ymwneud ag offeryn heblaw am y feiolin: gorfod perfformio deuawd allweddell gyda Max Richter gerbron miloedd o bobl yng Ngŵyl Montreux yn y Swistir. Ac o’r braidd roeddwn i’n gwybod ble oedd C ganol.

 

Beth wyt ti’n ei hoffi fwyaf am fod yn gerddor proffesiynol?

Wn i ddim mod i’n hoffi bod yn gerddor ‘proffesiynol’, dim ond cerddor! Dyw e ddim fel swydd mewn gwirionedd, oherwydd mod i’n ei charu cymaint. A’r peth hyfryd am gerddoriaeth yw ei bod yn esblygu drwy’r amser. Mae’n bartner am oes.

 

Pan nad wyt ti’n chwarae gyda Sinfonia Cymru, pa gerddorfeydd, ensembles neu brosiectau eraill wyt ti’n ymwneud â nhw?

Ar hyn o bryd, rydw i’n gweithio llawer gyda fy mhartner perfformio, Sten Heinoja: byddwn ni’n gwneud cryno ddisg ar ddiwedd flwyddyn. Rydw i’n byw yn Llundain, ac yn ffodus iawn o weithio gyda grwpiau fel 12 Ensemble, Cerddorfa Aurora, Britten Sinfonia. Mae gen i Driawd Piano i’m cadw’n brysur hefyd!

 

Beth yw dy hoff dri darn o gerddoriaeth, a pham?

Mae’n newid bob dydd, ond dyma nhw heddiw:

Berio Sequenza VIII

Pedwarawd Llinynnol Haydn yn E meddalnod fwyaf, Opws 33 Rhif 1

Jorja Smith Blue Lights

Cefnogwch Sinfonia Cymru

Cyfrannwch rodd nawr i roi’r dechrau gorau posibl i gerddorion ifanc yn eu gyrfaoedd proffesiynol.

Darllen rhagor