Rydym yn defnyddio cwcis o wasanaethau trydydd parti i'n helpu ni i wella ein gwefan.
Ein cerddorion

Dwi’n hoffi dychmygu mod i’n animeiddiwr ar y ffilm Disney, Fantasia

Cyhoeddwyd Dydd Mawrth 28 Gorffennaf 2020

Pryd ddechreuaist di chwarae’r feiolin?

Fe ddechreuais i ddysgu’r feiolin gan ddefnyddio dull Suzuki pan oeddwn i’n 5 mlwydd oed gyda Lucy Akehurst yn Adran Iau Ysgol Gerddoriaeth Frenhinol Birmingham.

Wyt ti’n chwarae offeryn arall?

Nes i mi fynd i Ysgol Gerddoriaeth Chetham pan oeddwn yn 14 oed, roeddwn i’n neilltuo’r un faint o amser i’r feiolin a’r piano. Yn Chetham y canolbwyntiais i ar y feiolin. Dwi hefyd yn hoffi canu a dwi wedi ennill gradd 4 ar offerynnau taro (yn rhyfedd iawn)!

Ble astudiaist di?

Fe astudiais i yng Ngholeg Brenhinol Cerdd y Gogledd ym Manceinion gyda’r Athro Wen Zhou Li.

Pryd chwaraeaist di gyntaf gyda Sinfonia Cymru?

Fe ddechreuais i chwarae gyda Sinfonia Cymru gyntaf yn 2014.

Beth wyt ti’n ei hoffi am weithio gyda Sinfonia Cymru?

Mae diwylliant rhyfeddol yn bodoli yn Sinfonia Cymru ar draws y chwaraewyr a’r rheolwyr; mae gan bawb agwedd gadarnhaol ac ysbryd hael. Mae hyn yn cael effaith uniongyrchol ac eithaf arbennig ar greu cerddoriaeth. Mae’r cerddorion yn barod i ymroi i weledigaeth yr arweinydd neu’r unawdwr ar yr un pryd â chynnal delfrydau cerddoriaeth siambr; gan chwarae gydag ymdeimlad o gyfrifoldeb unigol a naturioldeb.

Beth yw dy hoff atgof o Sinfonia Cymru?

Mae hwnnw’n gwestiwn anodd i’w ateb oherwydd bod cymaint o rai da. Roedd Four Seasons gan Vivaldi a gyfarwyddais yn ôl yn yr hydref 2018 yn arbennig iawn oherwydd roeddwn i wedi treulio amser hir yn paratoi fy ngweledigaeth ar gyfer y prosiect, ac roedd fy nghydweithwyr a’m ffrindiau wedi ei chefnogi’n galonnog. Nhw sy’n haeddu’r diolch am y ffaith bod y cyngherddau wedi taro’r nodyn iawn gyda chynulleidfaoedd oherwydd nhw yw’r rhai a wireddodd fy ngweledigaeth.

Beth yw dy hoff atgof cerddorol arall?

Taith 2016 Camerata Manceinion o’r Eidal gyda’r pianydd Martha Argerich. Mae hi’n gerddor rhyfeddol o naturiol ac mae’n fraint bod mor agos ati pan fydd hi’n perfformio. Roedd gweld Martha a Gabor (Cyfarwyddwr Cerddorol y Camerata) ar y llwyfan gyda’i gilydd mor ysbrydoledig. Er mor wahanol yw eu personoliaethau, mae eu hagwedd at berfformio yn debyg iawn. Mae’r ddau yn ymroi’n llwyr i’r gerddoriaeth a gweledigaeth y cyfansoddwr, a dydyn nhw ddim yn ofni mentro. Roedd y daith yn arbennig am lawer o resymau eraill hefyd. Roedd yn adeg o ffurfio perthnasoedd; pan fyddwch chi ar daith gyda’ch cydweithwyr am gyfnod hir rydych chi’n dod i adnabod eich gilydd yn well o lawer ac yn rhannu rhai profiadau gwych. Rydw i’n ysgrifennu’r geiriau hyn yn ystod y cyfyngiadau symud ac yn gobeithio na fydd hi’n rhy hir cyn y gallwn ni deithio eto!

Beth wyt ti’n ei hoffi fwyaf am fod yn gerddor proffesiynol?

Mae’n fraint treulio amser gyda cherddoriaeth cyfansoddwyr gwych. Dwi’n dwli ar berfformio, wrth gwrs; rydych chi’n cael egni digyffelyb gan y gynulleidfa ac mae’r asbri ar ôl y cyngerdd yn deimlad rhyfeddol. Ond, dwi’n credu mai fy hoff ran o’r broses, mewn gwirionedd, yw’r cyfnod breuddwydio cychwynnol; pan fyddwch chi’n agor y sgôr ac yn ysgrifennu straeon a ysbrydolwyd gan yr harmonïau hyfryd a ddewiswyd gan y cyfansoddwr, a’u perthynas â’r strwythur. Dwi’n hoffi dychmygu mod i’n animeiddiwr ar ffilm Disney, Fantasia; pa stori mae’r gerddoriaeth yma’n fy ysbrydoli i’w hadrodd? Nid yw’r gerddoriaeth a gyfansoddwyd yn newid (heblaw am rai mân wahaniaethau golygyddol), ac rydyn ni bob amser yn cael ein harwain gan ein cariad a’n parch at greawdwr y gerddoriaeth, ond mae’r straeon yn newid ac yn esblygu, yn unigryw i bob perfformiwr. Mae cerddoriaeth yn ysbrydol yn hynny o beth.

Pan nad wyt ti’n chwarae gyda Sinfonia Cymru, pa gerddorfeydd, ensembles neu brosiectau eraill wyt ti’n ymwneud â nhw?

Rydw i’n Gydarweinydd Camerata Manceinion ac yn Diwtor Feiolin yn Ysgol Gerddoriaeth Frenhinol Birmingham. Mae gen i bartneriaeth ddeuawd reolaidd gyda phrif sielydd y Camerata, Hannah Roberts, ac rydw i hefyd yn mwynhau prosiectau siambr diddorol ac amrywiol gyda Manchester Collective a Vonnegut Collective.

Beth yw dy hoff dri darn o gerddoriaeth, a pham?

Dyna gwestiwn anodd! Mae gwesteion ar Desert Island Discs yn cael digon o drafferth dewis wyth! Ond dyma dri o’m ffefrynnau:

‘Morgen’ (Op27/4) gan Richard Strauss. Rydw i wastad wedi dwli ar y Lied hwn ac yn hoff iawn o recordiad Dietrich Fischer-Dieskau/Gerald Moore. Gwnaeth Strauss drefniant gyda cherddorfa hefyd sy’n cynnwys solo feiolin trawiadol. Mae’n arbennig iawn i mi oherwydd bod fy chwaer yng nghyfraith wedi’i ganu yn fy mhriodas, a chwaraeodd fy mrawd y solo feiolin. Fe berfformiodd y ddau ohonyn nhw’r darn yn hyfryd.

Pumawd Llinynnol Rhif 2 Brahms yn G, symudiad cyntaf. Fe chwaraeais i’r darn hwn ychydig flynyddoedd yn ôl gyda’r prif chwaraewyr eraill yn Camerata Manceinion. Roedd yn Ddydd Sul y Pasg heulog, braf a theimlais yn gartrefol ymhlith pobl o’r un anian yn chwarae gyda’r cerddorion hyn. Mae’r solo sielo agoriadol yn rhoi llawenydd pur.

Short Ride in a Fast Machine gan John Adams. Ychydig iawn o ddarnau cyflym mewn cyweiriau mwyaf sy’n gwneud i mi grïo, ond dyma un ohonyn nhw. Mae’n rhywbeth tebyg i’r eiliad honno yn ET pan mae’r beiciau’n hedfan – mor orfoleddus!

Cefnogwch Sinfonia Cymru

Cyfrannwch rodd nawr i roi’r dechrau gorau posibl i gerddorion ifanc yn eu gyrfaoedd proffesiynol.

Darllen rhagor