Proffil Chwaraewr: Abel Selaocoe
Cyhoeddwyd Dydd Mawrth 28 Gorffennaf 2020Enw: Abel Selaocoe
Aelod Sinfonia Cymru: 2016 – presennol
Offeryn: Soddgrwth
Ynglun â Abel: Bob hyn a hyn, down ar draws artist y gellir ei ddisgrifio’n wirioneddol fel rhywun unigryw – ac mae Abel Selaocoe yn un o’r artistiaid hynny. Bu’n gweithio gyda ni ar ddechrau ei yrfa a sylweddolom yn fuan ei fod yn ymddiddori mewn ymestyn ffiniau a herio disgwyliadau cerddorol. Rhoddom amrywiaeth o gyfleoedd iddo sydd wedi llunio ei gyfeiriad cerddorol – bu’n gweithio ar Birdsong / Can Yr Adar gyda Kizzy Crawford a Gwilym Simcock, tair rhaglen Curate gan gynnwys ei raglen ei hun, MotherTongue, prosiect gyda Seckou Keita, a’n cydweithrediad â’r grŵp cerddoriaeth y byd Kabantu, a gydsefydlwyd gan Abel Selaocoe. Mae ei allu i symud yn ddi-dor ar draws genres ac arddulliau cerddorol yn dylanwadu’n gryf ar ei raglenni, ac mae ei arddull unigryw yn cyfathrebu’n bwerus â chynulleidfaoedd.
Prosiectau Sinfonia Cymru blaenorol: Birdsong / Can Yr Adar, MotherTongue,