
Hiraeth, Love & Longing
Dydd Iau 16 Chwefror 2023 - Dydd Sadwrn 18 Chwefror 2023
Perffaith. Pwerus. Chwalu’r ffiniau. Trydanol.
Rhai o’r geiriau a ddefnyddir mewn adolygiadau am berfformiadau seren y soddgrwth, Abel Selaocoe o Dde Affrica. Mewn cydweithrediad newydd gyda cherddorion dawnus Sinfonia Cymru, gallwch ddisgwyl cyfuniad teimladwy o gerddoriaeth wreiddiol Affricanaidd gan Abel, a cherddoriaeth fyrfyfyr gyffrous o driawd Abel – Chesaba – a mwy! Dyma gerddoriaeth i’ch rhyfeddu, gan y dewin cerddorol Abel Selaocoe. Bydd pobl yn siarad am hyn am flynyddoedd i ddod! Peidiwch â cholli’r cyfle i fod yno!