Rydym yn defnyddio cwcis o wasanaethau trydydd parti i'n helpu ni i wella ein gwefan.
Ein cerddorion

Roedd gweld deuawd Sting a Bryn Terfel o Roxanne yn uchafbwynt!

Cyhoeddwyd Dydd Mercher 27 Mai 2020

Gideon Brooks, Trwmped

Pryd ddechreuaist di chwarae dy offeryn? 
Pan oeddwn i’n 8 mlwydd oed.

Wyt ti’n chwarae offeryn arall?
Roeddwn i’n arfer cael gwersi canu a phiano, ond dwi ddim yn credu bod y cyhoedd yn haeddu fy nghlywed i’n gwneud y naill na’r llall o’r pethau hynny mwyach!

Ble astudiaist di?
Fe gwblheais i fy Ngradd Israddedig yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a’m Gradd Ôl-raddedig yn Ysgol Cerdd a Drama y Guildhall.

Pryd chwaraeaist di gyntaf gyda Sinfonia Cymru?
Ar ôl cael clyweliad am le i fod ar y rhestr artistiaid ychwanegol yn 2015, cefais wahoddiad i ymuno â’r gerddorfa ar daith ledled de Cymru. Arweiniwyd y gerddorfa gan Rachel Podger ac fe berfformion ni dri chyngerdd o waith Bach a Telemann. Roedd pawb yn wych! Roeddwn i’n teimlo bod angen i mi ddal i fyny.

Beth wyt ti’n ei hoffi am weithio gyda Sinfonia Cymru?
Rwy’n dwli ar y ffaith bod pob prosiect yn wahanol. O feddwl am 2019 yn unig, mae gen i atgofion melys o berfformio ‘Tosca’ yn Abu Dhabi, ac yn fuan wedi hynny gweithio ar gydweithrediad gyda’r grŵp gwerin ‘Kabantu’ ar daith ledled y Deyrnas Unedig.

Beth yw dy hoff atgof o Sinfonia Cymru?
Cyngerdd Pen-blwydd Bryn Terfel yn 50 Oed yn y Royal Albert Hall. Roedd gweld deuawd Sting a Bryn Terfel o Roxanne yn uchafbwynt!

Beth yw dy hoff atgof cerddorol arall?
Fis Tachwedd diwethaf, bues i’n rhan o gydweithrediad gyda Cherddorfa Ieuenctid yr Undeb Ewropeaidd ac Orquesta Sinfónica del ISA. Fe chwaraeon ni Finale Beethoven 7 ac yna gorffen gyda chadwyn o alawon o Cuba o’r enw ‘Conga’ yn Eglwys Gadeiriol Havana. Roedd eistedd wrth ymyl rhai o gerddorion gorau Cuba yn perfformio cerddoriaeth y wlad yn ddosbarth meistr mewn sut i deimlo rhythm a grŵf. Roedd yn rhyfeddol! Roedd yr eglwys gadeiriol dan ei sang ac roedd yr holl ddrysau ar agor er mwyn i strydoedd Havana glywed. Roedd yr awyrgylch yn drydanol! Fel y gallwch ddychmygu, roedd hi’n eithaf poeth hefyd.

Beth wyt ti’n ei hoffi fwyaf am fod yn gerddor proffesiynol?
Yr amrywiaeth! Mynd o gyngerdd cerddorfaol i gynnal gweithdy gyda phumawd pres mewn Ysgol Anghenion Arbennig. Mae pob gig yn rhoi boddhad, yn ei ffordd ei hun!

Pan nad wyt ti’n chwarae gyda Sinfonia Cymru, pa gerddorfeydd, ensembles neu brosiectau eraill wyt ti’n ymwneud â nhw?
Ar hyn o bryd, dwi ar Gynllun Prentisiaeth Cerddorfa Gŵyl Budapest, a ddechreuodd yn ddiweddar gyda thaith o Symffoni Rhif 5 Mahler yn Budapest ac Efrog Newydd. Roedd y clyweliad o flaen y gerddorfa gyfan, felly dwi’n teimlo’n ffodus iawn i allu chwarae gyda nhw nawr… yn lle ATYN nhw.

Beth yw dy hoff dri darn o gerddoriaeth, a pham?

Mae’n newid yn aml, ond dyma’r tri pheth sydd wedi bod ar fy rhestr chwarae yn aml yn ddiweddar: Them Changes – Thundercat.

Basydd gwych a grŵf trawiadol.

Romeo and Juliet – Prokofiev. Mae’n hyfryd!

Braggin’ in BrassLive in Cuba– Jazz at Lincoln Center Orchestra. Mae’n gyflym, yn dynn ac yn hollol ryfygus!

Cefnogwch Sinfonia Cymru

Cyfrannwch rodd nawr i roi’r dechrau gorau posibl i gerddorion ifanc yn eu gyrfaoedd proffesiynol.

Darllen rhagor