Proffil Chwaraewr: Helen Wilson
Cyhoeddwyd Monday 20 April 2020Enw: Helen Wilson
Aelod Sinfonia Cymru: 2014 – 2019
Offeryn: Ffliwt
Ynglun â Helen: Mae Helen Wilson yn ffliwtydd anhygoel o amryddawn. Mae wedi cymryd rhan yn rhywfaint o repertoire prif ffrwd Sinfonia Cymru, ond ei pherfformiadau mwyaf trawiadol yw’r rhai lle mae wedi gweithio ag artistiaid o genres eraill – fe Kizzy Crawford a Gwilym Simcock yn ail daith Birdsong / Cân Yr Adar, a Seckou Keita ar gyfer lansiad ei lyfr caneuon, ac yn Close to Folk gyda Kabantu, sef prosiect a ddaeth â chwarae jazz rhagorol Helen i’r amlwg. Yn 2019, cafodd ei dewis i gynhyrchu un o’r perfformiadau Curate, ac wrth i ni gyfarfod i drafod ei hymagwedd, dywedodd yn syml, “Rwyf eisiau canolbwyntio’r rhaglen ar her yr hinsawdd ac rwy’n mynd i ysgrifennu’r holl gerddoriaeth” – a dyna wnaeth hi.
Prosiectau Sinfonia Cymru blaenorol: Curate: People, Planet, Profit, Close to Folk, Birdsong / Can Yr Adar