Rydym yn defnyddio cwcis o wasanaethau trydydd parti i'n helpu ni i wella ein gwefan.
News

Dewch ar daith gerddorol o amgylch y byd yn ein tymor newydd o gyngherddau yng Nghasnewydd

Cyhoeddwyd Dydd Mawrth 14 Gorffennaf 2026

Mae ein cyngherddau awr ginio poblogaidd yn dychwelyd i Gasnewydd yn yr Hydref.

O Mozart i ganeuon Arabeg i gerddoriaeth ffliwt o Siapan, dyma’ch cyfle i brofi cerddoriaeth rhyngwladol, gyda stamp Cymreig.

Bydd pob cyngerdd tua awr o hyd, y ffordd perffaith i dreulio pnawn braf ac ymlaciol – gyda’r opsiwn i ychwanegu paned, cacen, cinio a hyd yn oed G&T fach wrth archebu eich tocyn.

Dyma’r cyngherddau awr ginio sydd i ddod rhwng Medi a Rhagfyr:

 

Music for Piano and Wind Instruments

Sgwrs gerddorol agos-atoch yw hon rhwng y piano a phump o offerynnau chwyth – ffliwt, obo, clarinét, basŵn a chorn Ffrengig.

Wrth galon y rhaglen mae symudiad cyntaf darn gwych gan Mozart, sef Quintet for Piano and Winds – gwaith roedd y cyfansoddwr ei hun yn ei ystyried ymhlith ei ddarnau gorau.

Dydd Mercher 2 Medi, 1yh

TOCYNNAU

 

Songs We Carry

Byddwn yn rhannu’r llwyfan gyda Ana Silvera, Saied Silbak a’r Cymro Patrick Rimes, ar gyfer premiere byd o fersiwn newydd a mwy o Songs We Carry, prosiect arbennig gan Ana a Saied sydd wedi ennill clod mawr. Yma cewch brofi hyd cerddoriaeth a chaneuon Arabeg a Ladino (Judeo-Sbaeneg) wrth iddynt gwrdd cyfoerh o alwawn Cymreig. Cyngerdd sy’n archwilio ac yn dathlu cerddoriaeth aml ddiwylliannol.

Dydd Mercher Hydref 7, 1yh

TOCYNNAU

 

Kizuna/ Cyswllt: Cyngerdd ffliwt a thelyn

Cymoedd Cymru sy’n cwrdd â choedwigoedd Siapan yn y gyngerdd arbennig hon, sy’n gyfuniad difyr o’r ffliwt a’r delyn. Wedi’i churadu gan Mina Middleton ar y ffliwt, cewch brofi alawon gwerin hudolus o Gymru a Siapan, a’r cyfan wedi’i ddylanwadu gan dirlun a thraddodiadau cynhenid o’r ddwy wlad.

Dydd Mercher 4 Tachwedd, 1yh

TOCYNNAU

 

Cyngerdd Nadolig: Classics and Carols

Dewch i ysbryd y Nadolig gyda chyngerdd i lonni a thwymo’r galon, ar ddiwrnod oer o Ragfyr. Wrth i’r dyddiau fyrhau a’r aer droi’n finiog, dyma raglen sy’n llawn clasuron poblogaidd a charolau hoffus. Cwtsh o gyngerdd.

Dydd Mercher 2 Rhagfyr, 1yh

TOCYNNAU

 

Sut i archebu tocyn

Ar-lein: newportlive.co.uk
Ar y ffôn: 01633 656757

Ar y ffôn: 01633 656757
Pris un sioe £10.50, neu gallwch arbed arian wrth archebu mwy;
2 gyngerdd – £18 (£9 y gyngerdd)
3 cyngerdd – £25.50 (£8.50 y gyngerdd)
4 cyngerdd – £34 (£8.50 y gyngerdd)

Wrth archebu’r tocynnau yma ar-lein, bydd y gostyngiad yn cael ei ychwanegu’n awtomatig i’r fasged, cyn i chi dalu.

Beth am fanteisio ar gynnig ychwanegol?
+ £4.50 am baned a chacen
+ £10 dewis o ginio a diod (cinio arferol, llysieuol neu ploughmans gyda gwin, cwrw, diod meddal neu G&T)

Cefnogwch Sinfonia Cymru

Cyfrannwch rodd nawr i roi'r dechrau gorau posibl i gerddorion ifanc yn eu gyrfaoedd proffesiynol.

Darllen rhagor