Sinfonia Cymru yn gwahodd Cymru i brofi egni America Ladin yn Ebrill a Mai.
Cyhoeddwyd Dydd Mercher 25 Mawrth 2026
*Datganiad i’r wasg 19.03.26
Sinfonia Cymru yn gwahodd Cymru i brofi egni America Ladin yn Ebrill a Mai.
Sinfonia Cymru yw un o gerddorfeydd mwyaf dynamig a chyffrous Prydain, yn gartref i rhai o gerddorion ifanc gorau’r wlad, pob un dan 30 oed. Yn enwog am ddod a syniadau ffres a cherddoriaeth o safon i galon cymunedau Cymru, mae ei prosiect diweddaraf gyda’r gantores Julieth Lozano Rolong o Colombia, yn rhoi cyfle unigryw i gynulleidfaoedd Cymru i brofi cerddoriaeth a chaneuon sydd byth braidd i’w clywed tu hwnt i America Ladin.
Meddai Caroline Tress, Prifweithredwr Sinfonia Cymru; “Ry’n ni’n angerddol am gyflwyno profiadau cerddorol o safon uchel i gymunedau Cymru. Ry’n ni’n cefnogi cerddorion ar ddechrau eu gyrfa, ac ry’n ni bob amser yn ceisio datblygu syniadau newydd a ffres. Mae Julieth yn gantores anhygoel, mae ei hegni, ei chreadigrwydd a’i hangerdd i gyflwyno cerddoriaeth traddodiadol America Ladin i bobl Cymru, yn gweddu’n berffaith gyda doniau ac egni ein cerddorion ni. Bydd y cyngherddau yma yn hollol unigryw ac yn brofiad arbennig iawn i bawb fydd yn y gynulleidfa.”
Prin yw’r cyfle i brofi cerddoriaeth America Ladin yng Nghymru. Bydd y gyngerdd hon yn cyflwyno cerddoriaeth a chaneuon lliwgar o’r Ariannin, Colombia, Ciwba, Mecsico, Periw a Venezuela. O gyfoeth cerddoriaeth María Grever i rhythmau cyfareddol Esther Forero, mae Julieth wedi dewis rhaglen anfarwol, a’r cyfan gan gyfansoddwyr benywaidd;
Meddai Julieth; “Dyma gyngerdd a fydd gobeithio yn atgoffa pawb bod cerddoriaeth yn rhywbeth sy’n uno pobl. Dwi eisiau cyflwyno pobl Cymru i’r melodïau a’r rhythmau o’n rhan i o’r byd, ac i atgoffa pawb bod ein cerddoriaeth ni, yn enwedig cerddoriaeth gan fenywod, yn hardd ac yn haeddu cael ei gofio, ei rannu a’i berfformio yn y ffordd gorau posibl.”
Mae’r gerddoriaeth wedi cael ei drefnu’n arbennig gan Edgar Fuentes, crëwr cerddoriaeth sy’n byw yn Colombia. Mae’r ensemble ei hun yn gyfuniad unigryw o waith lleisiol anhygoel Julieth a saith o gerddorion Sinfonia Cymru -ffidil, trwmped, bass, clarinet, telyn, a dau offerynnwr taro.
Os nad yw’r gyngerdd eisioes yn ddigon unigryw, bydd y gynulleidfa hefyd yn cael profi harddwch a phŵer barddoniaeth America Ladin, a bydd Julieth hefyd yn rhannu ei diddordeb mewn gwaith anadlu, gan wahodd y rhai hynny sydd eisiau ymuno mewn, i wneud hynny er mwyn creu cysylltiad dyfnach gyda’r gerddoriaeth.
Bydd y gyngerdd Latin American Song yn para tua 70 munud. Mae tri cyfle i brofi’r gyngerdd:
24.04 @19:30 Rhosygilwen, Cilgerran.
01.05 @20:00 Theatr Clwyd,Yr Wyddgrug.
02.05 @19:30 Coleg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru, Caerdydd.
Mae’r tocynnau ar werth nawr ar: www.sinfonia.cymru
Meddai Caroline Tress; “Mae hanes a chysylltiad cryf rhwng Cymru ac America Ladin, a thrwy’r gyngerdd hon ry’n ni’n gobeithio dechrau pennod newydd trwy ein cariad ni oll at gerddoriaeth. Dewch i brofi un o’r cyngherddau mwyaf unigryw a chyfareddol y gwelwch chi yng Nghymru yn 2026.”
Am wybodaeth bellach, cyfweliadau neu i archebu tocynnau braint i’r wasg neu i adolygwyr, cysylltwch â Heulwen Davies, Ymgynghorydd Marchnata Sinfonia Cymru ar heulwen@llaiscymru.wales