Amdanom ni
Ni yw cerddorfa talent ifanc Cymru, casgliad o gerddorion proffesiynol deinamig, pob un o dan 30 oed, o Gymru ac o bob rhan o’r byd. P’un a ydym yn perfformio cerddoriaeth glasurol, cyfansoddiadau newydd neu gydweithrediadau cyffrous gyda cherddorion nodedig o genres eraill, rydym yn chwarae gydag angerdd, cywirdeb ac ysbryd anturus. Byddwch yn ein gweld lle mae cerddoriaeth bwysicaf: yng nghanol cymunedau Cymru. Rydym yn perfformio mewn mannau lle mae cynulleidfaoedd yn teimlo’n gartrefol; yn amrywio o ganolfannau celfyddydau a neuaddau cyngerdd i dafarndai, neuaddau pentref, cartrefi gofal, ysgolion a thu hwnt.
Darllen rhagor