Christmas Concert: Classics & Carols
Pa well ffordd o fynd i ysbryd yr Ŵyl nag ymuno â’n cyngerdd Nadolig dyrchafol, fydd yn cynhesu’r galon ar ddiwrnod oer o Ragfyr? Wrth i’r dyddiau fyrhau, a’r rhew yn crensian dan ein traed, gadewch i’n cyngerdd o ffefrynnau clasurol a hoff garolau eich lapio yn llawenydd y tymor.
Bydd corau lleol yn cymryd rhan yn y cyngerdd i roi datganiadau bywiog o garolau Nadolig, ac mae croeso i chi ymuno â rhai ohonynt. Cewch ganu’n llawen, neu ymlacio a gwrando –chi biau’r dewis.
Yng nghwmni ffrindiau hen a newydd, mae’r cyngerdd twymgalon hwn yn cynnig egwyl ddelfrydol yng nghanol rhuthr mis Rhagfyr, ac yn gyfle i ymgysylltu â phleserau syml tymor yr Ŵyl.