Rydym yn defnyddio cwcis o wasanaethau trydydd parti i'n helpu ni i wella ein gwefan.

Sinfonia Cymru: Dewr, disglair a ledled Cymru

Ni yw cerddorfa talent ifanc Cymru, cartref i gerddorion proffesiynol a deinamig o Gymru a’r byd, pob un dan 30 oed. O berfformio cerddoriaeth glasurol i gyfansoddiadau newydd a chydweithio gyda cherddorion enwog a chyffrous, beth bynnag ry’n ni’n ei wneud, byddwn ni’n chwarae gydag angerdd, cywirdeb ac ysbryd anturus.

Byddwn ni’n perfformio lle mae cerddoriaeth o bwys: yng nghanol cymunedau Cymru. Byddwn ni yn y mannau ble mae’r gynulleidfa yn teimlo’n gartrefol; canolfannau celfyddydol, neuaddau cyngerdd, tafarndai, neuaddau pentref, cartrefi gofal, ysgolion a thu hwnt.

Ry’n ni’n cefnogi ein cerddorion ar ddechrau eu gyrfaoedd proffesiynol. Pan mae nhw’n ymuno, ry’n ni’n eu helpu i dyfu a chymryd yr awenau wrth guradu rhaglenni cyngerdd a phenderfynu pa gerddoriaeth i’w chwarae. Mae ein cerddorion ifanc ni ymhlith y mwyaf talentog, ac mae pob cyngerdd – o neuadd gyngerdd i neuadd bentref – o safon eithriadol o uchel. Ry’n ni’n perfformio heb arweinydd er mwyn creu perthynas agosach rhwng ein cerddorion a chi, ein cynulleidfa.

Bob blwyddyn, ryn ni’n cydweithio gyda artistiaid adnabyddus a sêr rhyngwladol sy’n ein hysbrydoli a’n herio. Mae’r cyngherddau hyn yn cyfuno cerddoriaeth glasurol gyda gwerin, jazz, cerddoriaeth Gorllewin Affrica a chymysgedd cyfoethog o arddulliau mewn ffyrdd cyffrous ac annisgwyl. Yn ddiweddar ry’n ni wedi cydweithio gyda Catrin Finch, Bryn Terfel, Jess Gillam ac Abel Selaocoe. Rydym yn angerddol am ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o sêr cerddorol Cymru, dyma pam ein bod ni’n trefnu gweithdai cerddoriaeth am ddim mewn ysgolion a cholegau.

Cawn ein croesawu’n rheolaidd i berfformio yn rhai o leoliadau celfyddydau mwyaf poblogaidd Cymru, gan gynnwys Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (Caerdydd), Glan yr Afon (Casnewydd) a Theatr Clwyd (Yr Wyddgrug). Mae ein hymrwymiad i berfformio mewn cymunedau llai yn cynnwys ein taith ‘Cymuned’ flynyddol, sy’n ymweld â neuaddau pentref ledled Cymru gyda pob perfformiad am ddim.

Os ydych chi’n byw yng Nghymru, ryn ni’n siŵr o fod yn perfformio yn eich ardal chi. Ymunwch â’n rhestr e-bost i gael y wybodaeth ddiweddaraf. Gobeithio cawn eich cwrdd mewn cyngerdd yn fuan.

Roeddwn i am ddweud diolch am y cyfle gwych i guradu fy ngherddoriaeth fy hun. Mae’r profiad wedi agor llwybrau newydd ac rydw i’n sicr yn teimlo yr hoffwn i wneud hyn fel rhan annatod o’m bywyd cerddorol.
–Abel Selaocoe, curator of #MotherTongue, May 2019

Cefnogwch Sinfonia Cymru

Cyfrannwch rodd nawr i roi'r dechrau gorau posibl i gerddorion ifanc yn eu gyrfaoedd proffesiynol.

Darllen rhagor