Rydym yn defnyddio cwcis o wasanaethau trydydd parti i'n helpu ni i wella ein gwefan.
  • Caroline Tress

    Prif Weithredwr
    caroline@sinfonia.cymru

    Cefais fy magu mewn teulu o gerddorion a threfnwyr cerdd, yn chwarae’r piano a’r fiola (ac os gallwch ddweud jôc am fiola wrtha i, nad ydw i wedi ei chlywed o’r blaen, fe brynaf baned o goffi i chi!). Ar ôl astudio ym Mhrifysgol Caerdydd, es i weithio fel cyfrifydd gyda chwmni gwasanaethau ariannol mawr, ond buan iawn y sylweddolais fy mod yn colli’r profiad o fod yn gysylltiedig â cherddoriaeth a cherddorion – felly dihangais i ddechrau gyrfa ym maes y celfyddydau.

    Ers hynny, rydw i wedi gweithio i Opera Cenedlaethol Cymru a’r English Touring Opera, ac fel Rheolwr Cyffredinol yr Oxfordshire Youth Arts Partnership – sefydliad sy’n grymuso pobl ifanc i wneud newidiadau positif i’w bywydau a’u cymunedau drwy gyfrwng prosiectau celf. Rhwng 2017 a 2022 ro’n i’n Rheolwr Cyffredinol Gŵyl Bro Morgannwg, ac yna Music Theatre Wales – dau sefydliad sy’n arbenigo mewn cerddoriaeth glasurol gyfoes.

    Ymunais â Sinfonia Cymru ym mis Hydref 2022 – mae’n sefydliad rwyf wedi ei ddilyn a’i edmygu ers sawl blwyddyn, ac rwyf wrth fy modd yn cael bod yn rhan o’r ethos sydd yma, sef creadigrwydd, cydweithio . . . ac antur!

  • Joseph Evans

    Rheolwr Cyffredinol
    Joseph@sinfonia.cymru

    Bu’n llawer gwell gen i ddarllen a siarad am gerddoriaeth na’i chwarae o hyd (mae fy nhrwmped wedi bod yn ei gês ers dwy flynedd o leiaf bellach) ac rwy’n treulio’r rhan fwyaf o’m hamser yn Rhydychen a Chaergrawnt yn obsesu am ffiwgiau. Mae’n wych fy mod i’n gallu parhau i sgwrsio â phobl sy’n dwli ar gerddoriaeth a bod yn rhan o gynllunio prosiectau cyffrous ac amrywiol, gan weithio gyda phersonoliaethau cerddorol mor ddiddorol. Cefais fy magu yng Nghaerdydd, a dyna lle cefais fy holl brofiadau cerddorol cyntaf, felly rwy’n falch o fod yn rhan o’r diwylliant cerddorol yma eto. Pan nad ydw i’n meddwl am gerddoriaeth, rwy’n hoffi gweithio fy ffordd drwy fy nghasgliad cynyddol fawr o lyfrau ryseitiau, sy’n nesáu at bum deg ar hyn o bryd.

  • Becky Mercer

    Cydlynydd Cymunedau a Phartneriaethau
    becky@sinfonia.cymru

    Wnes i dyfu fyny yn Fife yn yr Alban, yr unig reswm wnes i ddechrau chwarae’r corn, oedd oherwydd nad oeddwn i’n ddigon tal i chwarae’r trombôn! Wnes i gwblhau fy Ngradd ym Mhrifysgol Aberdeen cyn symud i Gaerdydd i wneud Gradd Meistr mewn Perfformiad Cerddorfaol yng Ngholeg Cerdd a Drama Cymru. Wedi blwyddyn o’r pandemic a blwyddyn fel Llywydd Undeb y Myfyrwyr, a dyma fi yma yn Sinfonia Cymru! Dwi’n caru’r diwylliant cerddorol yma yn Ne Cymru, a pan nad ydw i yng nghanol y bwrlwm hwnnw, rwy’n mwynhau treulio amser gyda fy nghi ac yn mynd i’r theatr.

  • Isobel Soper

    Cynorthwy-ydd Marchnata
    Isobel@sinfonia.cymru

    Sielydd o Gymru ydw i, ac yn 2003 enillais radd o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd. Ers i mi raddio rwyf wedi taflu fy hun i mewn i’r byd llawrydd, sy’n hyfryd o fympwyol. Rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i berfformio mewn pob math o leoliadau ac amgylchiadau, o byllau cerddorfeydd a theatrau cerdd i berfformiadau pedwarawdau llinynnol ac fel unawdydd mewn priodasau. Dros y blynyddoedd rwyf wedi perfformio mewn rhai canolfannau anhygoel ledled Cymru a’r DU, yn cynnwys y Royal Albert Hall, Neuadd Dewi Sant a’r Birmingham Symphony Hall. Rwy’n parhau i fwynhau cyfuniad o chwarae gydag ensemble, cerddoriaeth siambr a phrosiectau cydweithredol. Os nad ydw i’n chwarae fy sielo, byddwch yn fwyaf tebygol o ddod o hyd i mi mas yn rhedeg, neu gartref gyda fy nheulu a thair o gathod!

  • Kathy Clarke

    Cynorthwyydd Cyngherddau a Phrosiectau
    kathy@sinfonia.cymru

    Pan o’n i’n tyfu i fyny, y gitâr oedd fy mhrofiad cerddorol cyntaf, wrth i mi ddilyn ôl troed fy mhrif ysbrydoliaeth ym myd cerdd, sef fy nhad, a arferai fod yn gitarydd roc yn perfformio mewn llu o westai yn Blackpool. Ro’n i yn yr ysgol uwchradd pan gefais fy nghyflwyno i’r sacsaffon – offeryn amrywiol yn gyforiog o wahanol liwiau – a theimlwn fy mod wedi dod o hyd i ’nghartref cerddorol.

    Ar ôl graddio mewn cerddoriaeth ym Mhrifysgol Manceinion, dechreuais astudio perfformio. Bellach rwyf wedi ennill gradd Meistr ar y sacsaffon o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, yn ogystal â thramor o Brifysgol Wladol Pennsylvania. Roedd dychwelyd i Gymru bob amser ar fy meddwl pan o’n i yn yr Unol Daleithiau, felly rwy’n hynod ddiolchgar i fod yn ôl yma a chael bod yn rhan o’r gwaith gwych, amrywiol mae Sinfonia Cymru’n ei wneud ledled y wlad. Y tu allan i fyd cerdd, rwy’n mwynhau ymdaflu fy hun i mewn i fydoedd gwahanol, naill ai trwy wylio cyfres deledu hirfaith, neu ymgolli mewn gêm.

  • Heulwen Davies

    Ymgynghorydd Marchnata
    heulwen@llaiscymru.wales

    Shwmae, Heulwen ydw i a thrwy fy musnes Llais Cymru, rydw i wedi bod yn arwain y Marchnata ar gyfer Sinfonia Cymru ers Medi 2021. Rwy’n caru cerddoriaeth, rydw i wrth fy modd yn canu, mae’n fy ymlacio, yn gwneud i mi deimlo’n hapus ac yn fyw, ond dydw i erioed wedi llwyddo i chwarae offeryn! Rhoddais gynnig ar yr utgorn ond ni allwn gael unrhyw synau dymunol allan ohono, gwaharddwyd fy recorder a fy chwiban Wyddelig o gartref y teulu, dywedodd fy athro ffidil bod fy nghanu yn llawer gwell, felly treuliais fy ngwersi ffidil yn canu yn lle! Yn fy 30au, ceisiais eto gyda gwersi piano ochr yn ochr â fy mhlentyn 5 oed, ni chefais unrhyw hwyl arni! Felly, rydw i’n canolbwyntio ar fy nghryfderau fy hun ac yn mwynhau’r cyfle i rannu straeon ein cerddorion anhygoel a’r gerddorfa hwyliog hon sef Sinfonia Cymru. Cerddorion, dwi’n codi fy het i chi!

  • Simmy Singh

    Cydymaith Creadigol
    s.singh.violin@gmail.com

    Cefais fy ngeni a fy magu yn Llandybie lle cefais ddysgu cerddoriaeth gan fy mam anhygoel. Es i draw i Ysgol Gerdd Chetham’s pan oeddwn i’n 16 oed ac es ymlaen i’r RNCM ar ôl hynny a nawr yn mwynhau bywyd lliwgar ac amrywiol fel feiolinydd clasurol a thrawsgroesiad. Rwy’n angerddol am wthio ffiniau a chredaf mai amrywiaeth yw sbeis bywyd mewn gwirionedd a cheisiaf fyw yn driw i hynny yn fy ngyrfa lawrydd. O gyd-ddod o hyd i’r Manchester Collective, i arwain Cerddorfa Kaleidoscope, recordio tannau ar gyfer cynhyrchwyr electronig a chwarae gyda rhai o artistiaid jazz mwyaf cyffrous y wlad gyda fy mhedwarawd, Amika, rwyf wrth fy modd â phob rhan o’r hyn rwy’n ei wneud. Tan yn ddiweddar, pan gyrhaeddais y cap oedran, roeddwn yn aelod hir sefydlog o Sinfonia Cymru ac mae wir wedi helpu i fy siapio i mewn i’r cerddor rydw i heddiw. Rwy’n falch iawn o allu parhau â’r siwrnai gyda’r teulu anhygoel hwn yn fy rôl fel Cydymaith Creadigol ac i ddal ati i wthio, archwilio a thyfu gyda’n gilydd, i roi’r cyfan maen nhw wedi’i roi i mi yn ôl a dod â’r cyfan yn ôl adref!

  • Haim Choi

    Blaenwr

    Byth ers dyddiau cynnar fy mhlentyndod rwyf wedi cael fy ysbrydoli gan wahanol agweddau o’r celfyddydau perfformio, ac rwy’n ddiolchgar i’m rhieni – oedd mewn proffesiynau cwbl wahanol, ymhell oddi wrth fyd y celfyddydau – am eu cefnogaeth ac am sicrhau fy mod yn cael fy nhrwytho yn y maes. Fel plentyn, ro’n i’n arbennig o hoff o ganu a drama, ac wrth gael profiad eang o’r ddau faes ar y llwyfan yn ogystal ag o’r awditoriwm, gafaelais mewn ffidil am y tro cyntaf pan o’n i’n 8 oed, a dydw i ddim wedi gollwng fy ngafael ers hynny. Fe ddois i’r DU pan o’n i yn fy arddegau i astudio yn Ysgol Yehudi Menuhin, yna yn y Coleg Cerdd Brenhinol, gan dreulio blynyddoedd mwyaf ffurfiannol fy natblygiad fel cerddor dan arweiniad nifer o fentoriaid ysbrydoledig.

    A bellach mae bywyd yn estyniad hapus o’r holl weithgareddau cerddorol amrywiol rydw i wrth fy modd yn eu gwneud, ac sy’n fy ysbrydoli i –cydweithredu gyda chyd-gerddorion siambr o’r radd flaenaf, ymgolli mewn repertoire symffonig gyda cherddorfeydd o safon byd-eang, perfformio mewn nifer o gynyrchiadau opera syfrdanol mewn sawl gwahanol ganolfan, recordio cerddoriaeth ffilm (a llawer math arall!) mewn stiwdios hanesyddol, a hyd yn oed cael cyfle i greu (!) yn ogystal â chwarae ac actio mewn cynhyrchiad amlddisgyblaethol yn y West End, a chyfarwyddo Sinfonia Cymru wrth gwrs!

    Mae Sinfonia Cymru yn lle hapus iawn i mi, gan fy mod yn cael cyfle i weithio’n agos gyda nifer o artistiaid unigryw, mentrus a hael ein cenhedlaeth ni mewn amrywiaeth anhygoel o gydweithrediadau! Rydw i hefyd yn cael llawer o hwyl wrth fynd i’r afael â phob math o dasgau yn y maes artistig, yng nghwmni’r tîm rhyfeddol sydd yma.
    Mae’r cyfan yn fwynhad pur, ac rwy’n edrych ymlaen at arwain llawer mwy o brosiectau cyffrous a chael croeso gan y cymunedau hyfryd yng Nghymru.

  • Gareth Jones

    Sylfaenydd a Chynghorydd Artistig

    Sefydlwyd Sinfonia Cymru yn 1996 gan Gareth Jones, arweinydd o Gymru, a chwaraeodd rôl bwysig yng Nghymru fel cerddorfa hyfforddi ar gyfer cerddorion ifanc. Mae Gareth wedi bod yn ffigur pwysig yn Sinfonia Cymru ers y dechrau. Ef oedd Prif Arweinydd cyntaf y gerddorfa, ac ers 2018 mae’n Ymgynghorydd Artistig Sinfonia Cymru. Bu’n arwain y gerddorfa mewn nifer fawr o berfformiadau clodfawr yn cynnwys, yn fwyaf diweddar, taith o amgylch Cymru a’r DU gyda Syr Bryn Terfel yn hydref 2022.

  • Wiard Sterk

    Cadeirydd

    Cefais fy ngeni a’m magu yn yr Iseldiroedd. Ar ôl methu’n drychinebus mewn ymdrech i ddysgu chwarae’r ffidil, rhoddais gynnig ar y clarinet yn y gobaith y byddai’n fy siwtio’n well. Fodd bynnag, buan iawn y penderfynais mai’r peth gorau i mi – ac i unrhyw un o fewn clyw – fyddai rhoi’r gorau’n llwyr i chwarae offeryn; symudais i Lundain yn 1982 ac i Gymru ddwy flynedd yn ddiweddarach. Roedd fy ngyrfa gynnar ym maes rheoli llwyfan a theatr, yn gweithio i gwmnïau megis Made in Wales, Opera Cenedlaethol Cymru, Hijinx Theatre (lle y llwyddais, o’r diwedd, i chwarae ambell nodyn cerddorol mewn un cynhyrchiad), Theatr Clwyd, Theatr Sherman a Theatr Hafren. Ar ôl ennill gradd mewn Hanes Celf gyda’r Brifysgol Agored ymunais â CBAT, yr Asiantaeth Celf ac Adfywio, yn yr 1990au cynnar fel Rheolwr Prosiect ac yn ddiweddarach fel Cyfarwyddwr Comisiynau ar gyfer prosiectau celf cyhoeddus. Yn 2003 penodwyd fi’n Gyfarwyddwr CBAT ac yna, yn dilyn cyfuno cwmnïau bedair blynedd yn ddiweddarach, yn Gyfarwyddwr Gweithredol cyntaf Safle, yr asiantaeth a ddaeth yn sgil CBAT. Yn ystod y cyfnod hwn roeddwn yn gyfrifol am nifer o brosiectau creadigol cyhoeddus llwyddiannus a rhaglenni comisiynau celf ledled Cymru a gweddill y DU.

    Dros y degawd diwethaf bûm yn gweithio fel ymgynghorydd celf llawrydd ac fel cyfieithydd o bryd i’w gilydd. Yn dilyn y refferendwm ar aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd yn 2016 bûm yn ymgyrchu dros warchod hawliau Dinasyddion yr UE fel eiriolwr ar ran ‘the3million’. Ro’n i’n gyfrifol am ddrafftio a darparu arweiniad hawdd ei ddilyn ar fewnfudo mewn perthynas â Chynllun Setliad yr UE ar gyfer dinasyddion bregus yn yr UE, a helpu i sicrhau cyllid ar gyfer rhoi cyngor ar fewnfudo yng Nghymru; roedd hwn yn gam pwysig yn y gwaith o sefydlu’r elusen Settled, sydd bellach yn cynnig cyngor rhad ac am ddim ar fewnfudo i ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd ac, yn fwy diweddar, i ffoaduriaid o Wcráin ledled y DU.

    A minnau bellach wedi lled ymddeol, rwy’n Gyfarwyddwr Anweithredol Cymdeithas Tai Caredig ac yn Ymddiriedolwr gyda Settled, yn ogystal ag yn Gadeirydd Sinfonia Cymru – sefydliad ro’n i’n gefnogwr brwd ohono cyn i mi ymuno fel Ymddiriedolwr yn 2018.

  • Ali Vennart

    Aelod o'r Bwrdd a Aelod Sinfonia Cymru (2012-2021)

    Pe byddech chi wedi gofyn wrtha’i yn fy arddegau cynnar beth y byddwn i’n ei wneud fel oedolyn, does dim siawns y byddwn i hyd yn oed yn sôn am Gerddoriaeth Glasurol! Byddech chi’n lwcus i gael y gair ‘Cerddoriaeth’ hyd yn oed, er, roeddwn i’n gwrando ar holl fandiau fy niwrnod: SOAD, Papa Roach, Sum41, Nirvana, ac ati, wrth sglefrfyrddio, casáu ysgol, gemau cyfrifiadur, yr holl bethau mae’r arddegwyr yn ei wneud. Dechreuais chwarae Fiola pan oeddwn yn 9 oed, dechreuais fwynhau cerddoriaeth go iawn o tua 14 oed, a syrthiais yn llwyr mewn cariad ag ef erbyn fy mod yn 16 oed, ‘jyst’ mewn pryd i gael fy holl raddau at ei gilydd ar gyfer gwneud cais i’r brifysgol. Ein taith ni sy’n rhoi llais unigryw i ni i gyd yn y byd hwn, sy’n dod â mi i’r rhan orau am fod yn gerddor – mae’n daith sydd byth yn dod i ben, ac edrychaf ymlaen bob dydd at yr hyn a allai fod yn dod rownd y gornel nesaf. …

  • Catrin Plumley

    Aelod o'r Bwrdd

    Trwy dderbyn fy addysg mewn ysgol uwchradd ddifreintiedig, rwyf wedi cael profiad uniongyrchol o fod yn dyst i bwysigrwydd cael mynediad i bawb at y celfyddydau. Heblaw am y cyfleoedd a gefais drwy raglenni celfyddydol i bobl ifanc, yn enwedig Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, ni fyddwn wedi gallu datblygu fel cerddor nac fel unigolyn. Datblygodd fy angerdd am gerddoriaeth pan oeddwn yn ifanc iawn, ac rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i gyfranogi’n eang yn y celfyddydau yng Nghymru am y rhan fwyaf o’m hoes. Rwyf wedi fy hyfforddi fel cantores, ac yn ogystal â chwarae’r clarinet a’r piano rwy’n treulio fy amser hamdden yn canu gyda Chantorion John S. Davies Singers ac yn rhoi gwersi canu. Astudiais y Gyfraith ym Mhrifysgol Bryste a threulio rhan gyntaf fy ngyrfa’n gweithio ym maes Cyfraith Eiddo Masnachol. Ers hynny rwyf wedi cymhwyso fel Rheolwr Prosiect yn gweithio ym maes addysg uwch a chodi arian. Rwyf wrth fy modd yn cael cyfle i helpu Sinfonia Cymru i gael effaith drawsnewidiol mewn cymunedau sydd ar hyn o bryd yn cael eu tanwasanaethu gan gerddoriaeth glasurol, ac yn enwedig i estyn at galonnau cymunedau gwledig ledled Cymru.

  • Llinos Madeley

    Aelod o'r Bwrdd

    Rwy’n Glerc Seneddol yn y Senedd, yn arbenigo mewn craffu a llywodraethu da. Dechreuais fy ngyrfa fel ymgynghorydd pwyllgorau yn Nhŷ’r Cyffredin. Dros y blynyddoedd diwethaf rwyf wedi cael fy secondio i weithio mewn gwladwriaethau bregus ac ôl-anghydfod fel arbenigwr ar gryfhau seneddol, gan gyfrannu at brosiectau yn Swdan, Yr Aifft ac Irác. Cefais fy ngeni a’m magu yng Nghaerffili, gan fynychu Ysgol Gyfun Cwm Rhymni cyn graddio mewn Athroniaeth, Gwleidyddiaeth ac Economeg o Goleg y Drindod, Prifysgol Rhydychen. Dechreuodd fy nghariad at gerddoriaeth yn yr ysgol, ond erbyn hyn mae fy chwarae wedi’i gyfyngu i’r stafell fyw, gan adael y perfformiadau i’r offerynwyr proffesiynol!

  • Russell Bright

    Aelod o'r Bwrdd

    Yn wreiddiol, roedd fy ngyrfa ym maes Peirianneg Cemegol, ac yna bûm yn Rheolwr Gyfarwyddwr neu’n Brif Swyddog Gweithredol mewn sawl cwmni, yn gweithio ym maes cemegolion a thechnoleg dŵr; roedd yr un olaf yn datblygu technoleg i alluogi algae i gael gwared â llygredd er mwyn glanhau ein hafonydd, ac ar yr un pryd yn cloi carbon i helpu yn y gwaith o wrthdroi newid hinsawdd. Gobeithiaf, felly, ddod â’m profiad yn y maes masnachol i fwrdd Sinfonia Cymru. Ar yr ochr gerddoriaeth, cefais fy magu yn sain cerddoriaeth glasurol, ac rwy’n parhau i’w fwynhau hyd heddiw. Erbyn hyn, fodd bynnag, mae’n well gen i wrando gan nad wyf yn ddigon medrus i berfformio – ond rwy’n chwarae’r gitâr, rwyf wedi cymryd rhan mewn dramâu amatur (gweler y llun!), ac rwy’n aelod o Gôr Meibion y Barri.

  • Aled Tudor

    Aelod o'r Bwrdd

    Dechreuodd Aled Tudor chwarae’r ffidil yn 7 oed, ac am y 4 blynedd gyntaf roedd yn casáu’r offeryn! Newidiodd y cyfan pan ymunodd â Cherddorfa Ieuenctid Clwyd pan oedd yn 11, ac o’r cychwyn cyntaf roedd wedi gwirioni â byd sain cerddorfa! Yn dilyn cyfnod byr a thrychinebus yn astudio Cemeg, aeth Aled ymlaen i astudio cerddoriaeth ar lefel israddedig, gan fwynhau agweddau ymarferol a chymdeithasol y cwrs gradd. Cafodd ei benodi’n diwtor teithiol yng Nghlwyd yn 1993, a threuliodd y rhan fwyaf o’r 20 mlynedd nesaf yn rhoi gwersi ffidil a fiola. Chwaraeodd ran flaenllaw yn y gwaith o ailsefydlu Cerddorfa Ieuenctid Gogledd Cymru yn 2005 – prosiect oedd yn agos iawn at ei galon. Ef oedd y Rheolwr a’r Cyfarwyddwr Artistig rhwng 2007 a 2019, ac yn y cyfnod hwnnw cafodd bleser yn goruchwylio datblygiad cannoedd o gerddorion ifanc, addawol, gyda llawer ohonynt yn dod yn aelodau o Sinfonia Cymru a chychwyn ar yrfaoedd llwyddiannus ym maes cerddoriaeth. Ar hyn o bryd, mae Aled yn Bennaeth Rhaglenni Ieuenctid yn y Royal Northern College of Music, lle mae’n darparu arweiniad strategol ar gyfer rhaglen addysgol cyn-18 y Coleg.

Cefnogwch Sinfonia Cymru

Cyfrannwch rodd nawr i roi'r dechrau gorau posibl i gerddorion ifanc yn eu gyrfaoedd proffesiynol.

Darllen rhagor