Rydym yn defnyddio cwcis o wasanaethau trydydd parti i'n helpu ni i wella ein gwefan.

Yiriba

Dydd Iau 12 Tachwedd 2026 - Dydd Sadwrn 28 Tachwedd 2026

Sidiki Dembélé – Djembe/Amryw o offerynnau

Percussion d’Abobo – Amryw o offerynnau

Sinfonia Cymru

Yn dilyn ein taith hynod boblogaidd gyda’r aml-offerynnwr Sidiki Dembélé yn 2024, rydym yn ôl gyda chydweithrediad newydd a chyffrous: Yiriba. Cewch brofi alawon bywiog Gorllewin Affrica ochr yn ochr â cherddoriaeth glasurol ac alawon gwerin o Gymru a gwahanol rannau o’r byd. Bydd cerddorion o ensemble Sidiki, Percussion d’Abobo, yn ymuno â Sidiki a cherddorfa siambr Sinfonia Cymru ar y llwyfan ar gyfer cyngerdd cyffrous sy’n cyfuno traddodiadau cerddorol mewn dulliau cynhyrfus ac annisgwyl. Mae’r cyngerdd hwn yn cyfuno cyfnodau o adlewyrchiad dwfn gyda rhythmau heintus fydd yn eich annog i ddawnsio yn eich sedd.

“Intense and irresistible,” Adolygiad am Ensemble Sidiki yn yr Edinburgh Music Review.

Cefnogwch Sinfonia Cymru

Cyfrannwch rodd nawr i roi'r dechrau gorau posibl i gerddorion ifanc yn eu gyrfaoedd proffesiynol.

Darllen rhagor