Rydym yn defnyddio cwcis o wasanaethau trydydd parti i'n helpu ni i wella ein gwefan.

Music for Piano and Wind Instruments

Dydd Mercher 2 Medi 2026 - Dydd Sadwrn 12 Medi 2026

Sgwrs gerddorol agos-atoch yw hon rhwng y piano a phump o offerynnau chwyth – ffliwt, obo, clarinét, basŵn a chorn Ffrengig.

Wrth galon y rhaglen mae symudiad cyntaf darn gwych gan Mozart, sef Quintet for Piano and Winds – gwaith roedd y cyfansoddwr ei hun yn ei ystyried ymhlith ei ddarnau gorau. Yn dilyn y perfformiad cyntaf, ysgrifennodd Mozart y geiriau enwog hyn at ei dad, Leopold, “I myself consider it to be the best thing I have written in my life.”

Ynghyd â’r campwaith hwn, mae’r ensemble’n perfformio Summer Music gan Samuel Barber, a’i elfennau laconig a blŵs, gwaith bywiog Malcolm Arnold, Sea Shanties, yn ogystal â cherddoriaeth gan Louise Farrenc a Mel Bonis. Gyda’i gilydd, mae’r gweithiau hyn yn arddangos gallu Sinfonia Cymru i gyfuno lliwiau, gweadau ac emosiynau cerddorol, gan greu perfformiad sy’n ddynamig ac yn gywrain fel ei gilydd.

Cefnogwch Sinfonia Cymru

Cyfrannwch rodd nawr i roi'r dechrau gorau posibl i gerddorion ifanc yn eu gyrfaoedd proffesiynol.

Darllen rhagor