Kizuna/Cyswllt
Mina Middleton – ffliwt
Esther Beyer – telyn
Plymiwch i mewn i fyd lle mae cymoedd Cymru’n cwrdd â fforestydd Siapan yn y cyngerdd hwn i ffliwt a thelyn a guradwyd gan Mina Middleton, ffliwtydd gyda Sinfonia Cymru.
Wedi’i ysbrydoli gan Flwyddyn Diwylliant Cymru a Siapan 2025, mae’r Kizuna/Cyswllt yn dathlu’r cysylltiad sydd rhwng y ddwy wlad.
Cewch fwynhau taith gerddorol yn gyforiog o alawon gwerin o Siapan a Chymru, a chyfansoddiadau modern a ysbrydolwyd ganddynt. Mae dylanwad tirluniau naturiol a hanesyddol, a thraddodiadau digyfnewid y ddwy wlad, i’w gweld ar bob darn.
Perfformir y cyngerdd ar ffliwt a thelyn sy’n offerynnau cyngerdd gorllewinol, ond daw’r ysbrydoliaeth o seiniau a thraddodiadau’r shakuhachi (ffliwt bambŵ Siapaneaidd) a’r koto (offeryn llinynnol Siapaneaidd) – offerynnau sydd yr un mor bwysig yn niwylliant cerddorol Siapan ag yw’r delyn a’r ffliwt yng Nghymru.
Ar gyfer y cyngerdd hwn, mae Mina’n cael cwmni Esther Beyer – telynores arobryn a chyn-lysgennad Sefydliad Benedetti.