Rydym yn defnyddio cwcis o wasanaethau trydydd parti i'n helpu ni i wella ein gwefan.
Rhan o'r

The Voice of the Whale

Dydd Sadwrn 22 Gorffennaf 2023 - Dydd Sadwrn 22 Gorffennaf 2023

Dŵr, Cerddoriaeth, Morfilod a Geiriau sy’n dod ynghyd yn y perfformiad syfrdanol hwn ar gyfer teuluoedd, gan gerddorion gwych Sinfonia Cymru a’r Storiwraig Catherine Dyson.

“Mae Lena yn byw yn y dyfodol, mewn byd ble mae dŵr a cherddoriaeth yn atgof niwlog. Wrth ddarganfod hen glawr record gyda llun morfil arno yn atig Nain a Taid, mae’n dechrau ar antur i ddarganfod y creadur hudolus hwn a’r dŵr mae’n nofio ynddo, yn bendefrynnol o glywed ei gân unwaith eto”.

Beth mae dŵr yn ei olygu i ti? Bywyd. Hwyl. Perygl. Yn y perfformiad cyffrous hwn wedi’i raglenni gan y cerddor Daniel Shao gyda stori wreiddiol wedi’i sgwennu a’i chyflwyno’n fyw gan Catherine Dyson, byddwn yn archwilio ein perthynas ddifyr gyda dŵr. Gyda neges ecolegol bwysig, mae’r cynhyrchiad newydd hwn yn siwr o gyfareddu ac ysbrydoli plant ac oedolion i drin dŵr fel ein ffrind gorau.

Noder y bydd offerynau taro a dŵr yn y dderbynfa er mwyn i’r plant archwilio a’i mwynhau cyn ac ar ol y perfformiad.

Addas i bob oedran. Am ddim fel rhan o’r Splash Mawr.

Cerddorion:
Daniel Shao, ffliwt
Garwyn Linnell, sielo
Joe Howsen, piano

Awdur a chyflwynydd y stori: Catherine Dyson.

Rhaglen

  1. Antonio Vivaldi Flute Concerto Op. 10 in F Major: The Storm at Sea
  2. Traditional Chinese (arr. Daniel Shao) Liuyang River
  3. Traditional African-American (arr. Samuel Coleridge-Taylor) Deep River
  4. George Crumb Vox Balaenae (Voice of the Whale)

Cefnogwch Sinfonia Cymru

Cyfrannwch rodd nawr i roi’r dechrau gorau posibl i gerddorion ifanc yn eu gyrfaoedd proffesiynol.

Darllen rhagor