Bwystfilod Aflan/Unclean Beasts – with Music Theatre Wales
“Aflendid”
“Daeth anlladrwydd i barch, trythyllwch i fri, ac aflendid i anrhydedd…”
“Dylsai syrthio ar ei liniau, a gwaeddi dros y lle am faddeuant a thrugaredd.”
Gwynebodd Edward Prosser Rhys storm o gamdriniaeth a sarhad mewn ymateb i’w gerdd ATGOF ar ol ennill coron Eisteddfod Genedlaethol 1924. Mynnodd herio’r norm trwy ddweud y gwir trwy ei gelfyddyd, a derbyn dirmyg a ffieidd-dod.
Roedd hyn 100 mlynedd yn ôl, ond gallai fod wedi bod heddiw, pan mae lleisiau sy’n mynd yn groes i’r gwynt yn parhau i gael eu diarddel.
Roedd darluniau Edward Prosser Rhys o ryw, chwant a rhamant rhwng dau ddyn ifanc yn adlewyrchiad beiddgar o’i realiti, gan herio normau cymdeithasol ei gyfnod, cyfnod pan oedd bod yn hoyw yn dal i fod yn anghyfreithlon, ac a fyddai am 40 mlynedd arall. Serch hynny, ymateb y rhai a ddewisodd i “geryddu a gwobrwyo” ei fynegiant creadigol a amlygodd gymhlethdodau a rhagfarnau’r oes.
Yn dilyn yr hynod lwyddiannus, Abomination: A DUP Opera, mae Conor Mitchell, unwaith yn rhagor, yn cyflwyno archwiliad operatig i galon chwalfa gymdeithasol.
Bydd y perfformiad gwreiddiol newydd hwn yn cyfuno monolog operatig gan y tenor Elgan Llŷr Thomas, a darn myfyriol gan y dawnsiwr/actor Eddie Ladd. Bydd Bwystfilod Aflan yn craffu ar yr ymateb cymdeithasol a sbardunwyd gan ATGOF, gan ymchwilio i’r newidiadau’r wlad, ei chyfrinachau cudd, a moderniaeth. Trwy lens opera, dawns a ffilm, byddwn yn dyst i’r gwrthdaro rhwng credoau parhaol a’r angen am newid mewn darn gyffrous a dyfeisgar wedi’i gyfarwyddo a’i gyd-greu gan Jac Ifan Moore, a’i ddylunio gan Elin Steele.
“Llygru a llygru”
“Yn gweddu yn well i Sodom a Gomorah nag i Gymru”
Wedi’i gyfansoddi gan Conor Mitchell, gyda pherfformiadau gan Elgan Llŷr Thomas ac Eddie Ladd, a’i gyfarwyddo gan Jac Ifan Moore. Perfformir yn Gymraeg gydag uwchdeitlau Saesneg.