Mae’n bosibl eich bod chi wedi gweld Haim yn arwain ein teithiau gyda’r sacsoffonydd Jess Gillam a’r gitarydd Sean Shibe, yn ogystal â rhai o’n perfformiadau yn ein taith genedlaethol ‘Mainly Village Halls’ hefyd. Nawr, ry’n ni’n gwneud y cyfan yn swyddogol!
Beth mae ei rol fel Arweinydd yn ei olygu?
Fel Arweinydd, bydd Haim yn parhau i arwain nifer o’n prosiectau cerddorfaol a siambr ac yn rhoi mewnbwn gwerthfawr i’n dewis cerddorol, cyfeiriad ein rhaglen, clyweliadau ac archwilio talent.
Pwy yw Haim? Dyma rhai pethau ry’n ni am i chi wybod…
Mae Haim yn 28 oed ac wedi perfformio gyda ni am dair mlynedd.
Mae wedi graddio o Ysgol Yehudi Menuhin a’r Coleg Cerdd Brenhinol.
Yn 2022, cyflwynyd Medal Aur Tagore iddi gan y Brenin Siarl, a chafodd wahoddiad i chwarae ym Mhalas Buckingham.
Mae Haim yn Gyd-Arweinydd yn Glyndebourne Sinfonia ac yn ffidil rhif un yn y pedwarawd arobryn Salomé Quartet.
Mae’n gyn Gyfarwyddwr Cerdd gyda’r cynhyrchiad enwog “Dr Semmelweis” yn y West End yn Llundain a’r Old Fic ym Mryste (gweithiodd yn agos gyda’r actor/cyd-awdur Sir Mark Rylance, y Cyfarwyddwr Tom Morris OBE, a’r Cyfansoddwr Adrian Sutton).
Mae wedi ennill llu o wobrau rhyngwladol gan gynnwys; Gwobr Gyntaf yn y gystadleuaeth nodedig Luigi Boccherini Award.
Mae’n Lysgenad Diwylliant i UNESCO Korea ac yn mwynhau dysgu yng Ngholeg Eton a’i chyn Ysgol – Yehudi Menuhin School.
Meddai Haim, “Rydw i’n hapus iawn, ac yn ei hystyried yn fraint i barhau fy ngwaith gyda Sinfonia Cymru fel ei Arweniydd newydd – rôl sy’n fy ngalluogi i greu cerddoriaeth gyda ffrindiau a chydweithwyr hyfryd, gyda’r ethos o ddod â cherddoriaeth ardderchog i gynulleidfaoedd eang. Rydw i wedi bod yn rhan o nifer o brosiectau amrywiol a chofiadwy gyda Sinfonia Cymru dros y blynyddoedd, ac edrychaf ymlaen at lawer mwy o gydweithrediadau eclectig, amlochrog, a chreadigol dros y tymhorau sydd i ddod.”
Meddai Caroline Tress, Prif Weithredwr Sinfonia Cymru, “Rydym wrth ein bodd fod Haim yn ymuno â’r Tîm Artistig fel Arweinydd y gerddorfa. Mae ei thalent anhygoel, ei hamlochredd, a’i hangerdd dros gydweithio gyda’i chyd-gerddorion ac ensemblau o bob maint, yn golygu mai hi yw’r person delfrydol ar gyfer Sinfonia Cymru wrth i ni edrych ymlaen at ein hanturiaethau cerddorol nesaf.”
Ymunwch â ni i groesawu Haim ac i’w mwynhau yn performio yn y prosiectau isod:
Autumn String Quartet
Dydd Gwener 14 Medi – Y Gelli a Llambed
Dydd Mercher 2 Hydref – Casnewydd a Chas-gwent.
Ry’n ni’n eich setlo chi i mewn i’r naws Hydrefol gyda’r rhaglen arbennig hon sy’n archwilio’r golau a’r tywyllwch, cyfeillgarwch a cholled. Cyngerdd hardd sy’n cynnwys goleuni’r “Sunset Quartet” gan Haydn a “Summer Moon’ gan Florence Price i ing a hunan adlewyrchiad y Pedwarawd yn “Shostakovich’s String Quartet No 11”.
Ankaben: Sidiki Dembélé a Sinfonia Cymru
Dydd Mercher 27 Tachwedd – Aberystwyth
Dydd Gwener 29 Tachwedd – Caerdydd
Dydd Sadwrn 30 Tachwedd – Wrecsam
Dewch i brofi’r hwyl! Rhythmau hwyliog, straeon a chaneuon sy’n codi’r ysbryd: Cyfuniad pwerus a llawn diddanwch ble bydd cerddoriaeth Gorllewin Africa, y clasurol a’r celtaidd yn cyd blethu mewn perfformiad hudol 80 munud o hyd. Bydd y drymiwr a’r aml offerynwr Sidiki Dembélé yn rhannu’r llwyfan gyda Modou Ndiaye ar y kora, y canwr Mariatou Dembélé ac 13 o gerddorion Sinfonia Cymru. Profiad uniryw a bythgofiadwy sy’n gweld diwylliannau yn dod ynghyd yn Ankaben.
Music for the Heart – gyda Hyeyoon Park
Dydd Iau 13 Chwefror – Wrecsam
Dydd Gwener 14 Chwefror – Aberystwyth
Dydd Sadwrn 15 Chwefor – Bryste
Dydd Sul 16 Chwefror – Pontyberem
Wedi’i gyfarwyddo gan y chwraewr ffidil arobryn Hyeyoon Park, dyma gyngerdd arbennig sy’n mynd â ni ar daith epig o’r “Souvenir de Florence” gan Tchaikovsky i’r “Severn Rhapsody” gan Finzi. Bydd hefyd yn cynnwys y pedwarawd llinynnol trawiadol gan Fanny Mendelssohn, Entr’acte gan Caroline Shaw a’n fersiwn unigryw o’r Concerto i’r ffidil i gerddorfa siambr gan Beethoven. Gallwch hefyd fwynhau ein Arweinydd Haim Choi yn pefformio deuawd arbennig gyda Hyeyoon wrth iddynt berfformio’r ddeuwad i’r ddwy ffdil gan Shostakovic!