Rydym yn defnyddio cwcis o wasanaethau trydydd parti i'n helpu ni i wella ein gwefan.
Artistiaid gwestai

Holi ac Ateb – Dewch i gwrdd â Lucienne Renaudin Vary!

Cyhoeddwyd Dydd Mercher 21 Medi 2022

Rydyn ni’n edrych ymlaen yn llawn cyffro at groesawu Lucienne Renaudin Vary, y drwmpedwraig hynod o Ffrainc, i Gymru ym mis Tachwedd! Gobeithiwn ddod â thipyn o flas Ffrainc i strydoedd Cymru yn ystod ein taith, ond yn gyntaf gadewch i ni ddod i’w hadnabod ychydig yn well . . .

I ddechrau, Lucienne, pryd a pham ddechreuoch chi chwarae’r trwmped, a beth sy’n ei wneud mor arbennig?

Dechreuais chwarae’r trwmped pan o’n i’n 9 oed. Ro’n i wedi dechrau gyda’r piano, ond ro’n i’n anobeithiol! Fe ddois ar draws y trwmped mewn gwers theori cerddoriaeth, diolch i’r athrawon trwmped ddaeth i’r dosbarth, ac fe gwympais mewn cariad ar unwaith! Ro’n i wrth fy modd gyda phob elfen o’r offeryn – y sain, y ffordd rydych chi’n ei ddal, y ffaith eich bod yn gallu chwarae pob arddull gerddorol . . . ac roedden nhw’n credu mai hwn oedd yr offeryn gorau un, felly fe gredais i nhw!

Ydych chi’n chwarae unrhyw offerynnau eraill?

Dwi’n chwarae ychydig ar y gitâr, dim ond digon i allu canu a chyfeilio i mi fy hun gyda rhyw gordiau syml, a dyna ni . . . a dyw e ddim yn wych! Ha ha!

Rydych chi eisoes wedi gwneud pethau rhyfeddol! Rydych chi wedi ennill nifer o wobrau, wedi ymddangos yn aml ar y sgrin ac ar-lein, ac mae pawb yn eich galw’n ‘drwmpedwraig hynod’. Beth yw uchafbwyntiau eich gyrfa hyd yn hyn?

Mae pob cyngerdd yn uchafbwynt; fy mreuddwyd oedd cael gwneud yr union beth dwi’n ei wneud y funud hon. Yn benodol, enillais y wobr Ffrengig Victoire de la Musique ac Opus, ac i mi roedd hynny’n wir yn freuddwyd go iawn. Dwi wedi recordio 4 albwm ar gyfer Warner Classics, ac roedd hynny hefyd yn freuddwyd! Dwi’n ffodus iawn fy mod yn cael byw fy mreuddwyd fel cerddor ifanc proffesiynol.

Hwn yw eich prosiect cyntaf gyda Sinfonia Cymru – ac ry’n ni’n teimlo’n gyffrous iawn! Sut ydych chi’n teimlo ynghylch gweithio gyda cherddorfa broffesiynol sy’n llawn o gerddorion yr un oedran â chi?

Dwi’n edrych ymlaen yn fawr iawn at chwarae gyda nhw! Mae’n wych o beth bod y genhedlaeth ifanc yn gweithio gyda cherddoriaeth glasurol. Bydd yn brofiad newydd i mi fod yn cyfarwyddo hefyd, ond dwi’n edrych ymlaen yn fawr!

Ar gyfer y rhai sydd heb eto eich gweld yn perfformio, disgrifiwch eich arddull a pha fath o gerddoriaeth rydych chi’n hoffi ei chwarae.

Dyw disgrifio’ch hunan ddim yn hawdd! Dwi’n hoffi sawl gwahanol arddull gerddorol, a dyna fyddwch chi’n ei glywed yn ystod y daith. Byddwn yn chwarae’r Concerto i’r Trwmped gan Hummel, felly rhywbeth clasurol iawn, ac yn yr ail ran bydd detholiad o ddarnau sy’n eitha ‘jazzy’ o bryd i’w gilydd. Dwi wrth fy modd yn chwarae sawl genre ym mhob cyngerdd – mae’n bleserus i’r gynulleidfa, ac mae’r cerddorion yn mwynhau newid o un arddull i’r llall! Dyna hefyd dwi’n ei wneud ar bob CD dwi’n ei recordio – mae’n hwyl!

Byddwn hefyd yn chwarae rhai trawsysgrifiadau – does dim repertoire eang ar gyfer y trwmped, felly dwi’n hoffi chwarae rhai darnau lleisiol, neu ddarnau i’r soddgrwth, ar y trwmped! Mae’r trefniannau y byddwn yn eu chwarae wedi cael eu cyfansoddi gan gerddor Americanaidd gwych, sef Bill Elliott, yn arbennig ar fy nghyfer i! Maen nhw wedi cael eu llunio’n benodol ar gyfer y trwmped a cherddorfa, sy’n berffaith ar gyfer y daith hon!

Beth yw eich hoff ddarn yn y rhaglen, a pham?

Dyna’r cwestiwn mwyaf anodd! Rydw i am ddweud y Concerto i’r Trwmped gan Hummel, gan mai hwnnw yw prif ddarn y cyngerdd, ac mae’n un o’m hoff goncertos ar gyfer y trwmped. Mae e’n wir yn gampwaith – bob tro dwi’n ei chwarae dwi’n ei ailddarganfod mewn ffordd wahanol, er fy mod wedi ei chwarae nifer fawr o weithiau. Dwi’n arbennig o hoff o’r ail symudiad, gan ei fod yn cynnwys cymaint o rannau rhamantus, hyfryd.

Dyna fydd eich ymweliad cyntaf â Chymru! Byddwn yn perfformio yn ne a gogledd Cymru – oes gennych chi ryw syniad o beth i’w ddisgwyl?

Un o’r pethau dwi’n eu mwynhau fwyaf yw cael teithio llawer iawn. Dwi’n hynod chwilfrydig ac yn hoffi darganfod gwahanol wledydd a dinasoedd. Mae staff Sinfonia Cymru wedi dweud wrtha i bod Cymru’n wyrdd, yn heddychlon ac yn hardd; mae’n swnio’n wych, felly dwi’n edrych ymlaen yn fawr. Bydd gallu gweld yr holl dirluniau hyfryd o Gymru â’m llygaid fy hun yn brofiad bythgofiadwy! Dwi hefyd yn edrych ymlaen at flasu amrywiaeth o fwydydd a diodydd lleol Cymru.

Pan nad ydych chi’n perfformio, beth arall ydych chi’n hoffi ei wneud?

Mae bod yn gerddor yn cymryd llawer iawn o amser, ond dwi’n hoffi darllen ac yn gwrando’n aml ar gerddoriaeth o bob math – rhai cantorion jazz, a symffonïau Shostakovich a Mahler. Dwi hefyd yn hoffi gwahanol chwaraeon, coginio, treulio amser gyda fy nheulu, gwylio Netflix, a theithio! Gymru – rydw i ar fy ffordd!

Diolch i Lucienne am rannu ei stori gyda ni, a gyda’r fath amrywiaeth o gerddoriaeth yn aros amdanom, ry’n ni’n edrych ymlaen yn eiddgar at y daith! Gallwch ein gweld y canolfannau canlynol:

➡️ 17.11.22 Glan yr Afon, Casnewydd
➡️ 18.11.22 Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd
➡️ 19.11.22 Ysgol Gynradd Pontyberem, Pontyberem
➡️ 20.11.22 Neuadd William Aston, Wrecsam

Cefnogwch Sinfonia Cymru

Cyfrannwch rodd nawr i roi’r dechrau gorau posibl i gerddorion ifanc yn eu gyrfaoedd proffesiynol.

Darllen rhagor