Rydym yn defnyddio cwcis o wasanaethau trydydd parti i'n helpu ni i wella ein gwefan.
Perfformiad digidol

Dewisiadau Chwaraewyr – Suite for Flute & Jazz Trio, Bolling

Cyhoeddwyd Dydd Sadwrn 21 Awst 2021

Roedden ni eisiau creu mwy o fideos cerddoriaeth i chi a hefyd rhoi cyfle i’n chwaraewyr chwythbrennau ddisgleirio. Felly, fe ofynnon ni iddyn nhw ddewis eu hoff ddarnau o’r repertoire chwythbrennau. Mae’r canlyniad yn ddetholiad o unawdau, deuawdau a thriawdau byr sy’n rhychwantu amrywiaeth o gyfansoddwyr ac arddulliau cerddorol.

Mae’r darn hyfryd hwn, a ddewiswyd gan Dan Shao, gan y cyfansoddwr a’r pianydd jazz Ffrengig, Claude Bolling.

Rhaglen

  1. Daniel Shao Flute
  2. Hamish Brown Piano
  3. Claude Bolling Suite for Flute & Jazz Trio - Javanaise

Cefnogwch Sinfonia Cymru

Cyfrannwch rodd nawr i roi’r dechrau gorau posibl i gerddorion ifanc yn eu gyrfaoedd proffesiynol.

Darllen rhagor